Fframiau Haearn ac Olwynion Pren - Casgliad Beiciau Amgueddfa Cymru 16 Mai 2007 Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pwyslais cynyddol ar ffitrwydd a materion gwyrdd wedi cynyddu poblogrwydd y beic. Heddiw mae beiciau ar gael mewn amrywiaeth eang o steiliau a phrisiau, ond roedd y beiciau cyntaf a gynhyrchwyd yn eithriadol o ddrud ac yn anodd eu meistroli. Cynlluniau'r beiciau cyntaf Pâr o Gaerdydd ar feic tandem gyda'r fenyw ar y blaen. Roedd y dyn, a oedd yn diwniwr pianos, yn ddall. Roedd y beiciau High Ordinaries, a alwyd yn ddiweddarach yn Penny Farthings yn arbennig o anghyfforddus, ac roedd rhaid cael coesau hir i gyrraedd y pedalau. Yn yr 1870au ffurfiwyd clybiau gan berchnogion y beiciau newydd hyn. Gwisgai'r aelodau gapiau â bathodynnau'r clybiau arnynt, a siwtiau beicio milwrol yr olwg. Er i fenywod osgoi beiciau ar y cychwyn, daeth nifer i fod yn drisiclwyr brwdfrydig, gan ddewis y beiciau tair olwyn mwy sefydlog, a dillad arbennig a gynlluniwyd i fod yn ddiogel a chyfforddus. Roedd sgertiau pletiog yn caniatau mwy o ryddid i symud, a gwisgai rhai menywod lodrau o dan eu sgertiau. Fynnodd y beic yn yr 1890au. Roedd modelau newydd yn ymddangos bron bob wythnos, ac agorwyd ffatrïoedd beiciau ledled y wlad. Gyda datblygiad y 'beic diogelwch' yn cynnwys cadwyn ac olwynion yr un maint, nid oedd rhaid bod yn ddyn tal ac athletaidd i feicio bellach. Wrth i boblogrwydd beicio dyfu, newidiodd y dillad i fod yn llai rhyfedd, a dechreuodd dynion wisgo'u dillad cyffredin yn lle'r hen siwtiau beicio. Gan y bu rhaid i fenywod ddefnyddio beiciau a gynlluniwyd ar gyfer dynion, a oedd yn anaddas i'w defnyddio tra'n gwisgo sgertiau, annogwyd hwy gan y Rational Dress Society yn ogystal â nifer o glybiau beicio i wisgo math o glosau pen-glinniau a elwir yn rationals. Roedd y rationals yn edrych yn rhyfedd ac yn destun sbort i nifer o'r cyhoedd. O ganlyniad i'r gwawdio hyn roeddent yn amhoblogaidd, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif nid oedd llawer o fenywod yn eu gwisgo. Gyda dyfodiad masgynhyrchu a gostyngiadau mewn prysiau, manteisiodd y dosbarth gweithiol ar y cyfle i fod yn berchenogion ar eu trafnidiaeth eu hunain. Yn ogystal â disodli'r poni a'r trap fel trafnidiaeth y postmon cef gwlad, roedd y beic yn galluogi heddweision i wasanaethu ardaloedd ehangach. Hefyd gallai siopau eu defnyddio i gludo nwyddau at eu cwsmeriaid yn gyflymach. Arbrofwyd gyda defnyddio beiciau i yrru injans tân hyd yn oed. Dechreuodd haearnwerthwyr a siopau nwyddau amaethyddol werthu beiciau, a datblygodd nifer o'r gofaint lleol arbenigedd wrth eu trwsio. Esblygiad y beic Cafodd yr awydd am gyflymder effaith mawr ar gynllun beiciau. Gan mai'r pedalau oedd yn gyrru olwynion y beiciau cynnar yn uniongyrchol, defnyddio olwynion mwy oedd yr unig ffordd i gynyddu'r cyflymder. Cynhyrchwyd rhai modelau gyda olwynion â diamedr o 62 modfedd, oedd yn pwyso tua 50 pwys. Ceisiwyd cyflymu'r beiciau trwy gynhyrchu rhai ysgafnach, cyn lleied a 22 pwys. Wrth reswm, roeddent yn feiciau peryglus iawn. Rasio beiciau Taniwyd dychymyg y cyhoedd gan rasys dros bellteroedd hir, fel o Lundain i John O'Groats, ac roeddent yn gyfrifol am gynyddu poblogrwydd beicio. Fodd bynnag, wrth i'r cyflymdra gynyddu cafwyd mwy a mwy o ddamweiniau, nes i'r heddlu wahardd rasio ar briffyrdd cyhoeddus. Trefnwyd rasys dros gyrsiau rhwng 50 a 100 milltir o hyd gan y National Cyclists Union. Ni welwyd rasys ffordd, fel y Tour de France, ym Mhrydain tan y 1950au cynnar. Cynhaliwyd y ras Tour of Britain cyntaf, sef y Milk Race yn ddiweddarach, ym 1951. Roedd rasio ar y trac, ar y llaw arall, yn un o'r chwaraeon gwreiddiol yn yr Olympiad cyntaf ym 1896. Cynhaliwyd pencampwriaethau byd rasys trac o 1892 ymlaen, er nad oedd rasys ar gyfer menywod tan 1958. Beiciau yng nghasgliadau'r Amgueddfa Yr enw am y beic cynharaf yng nghasgliadau'r amgueddfa yw'r 'march haearn'. Mae'n dyddio o tua 1865, mae ganddo ffram haearn, olwynion pren a theiars haearn. Mae'n debyg mae dyma'r cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys 'march haearn' a adeiladwyd o bren yng nghefn gwlad gan grefftwr lleol. Mae'n gopi o'r fersiwn o'r beic a gafodd ei weithgynhyrchu. Yn ogystal a'r meirch pren, mae gan yr amgueddfa feiciau Raleigh o'r 30au, roadsters o gyfnod yr Ail Ryfel Byd, beic tandem New Hudson o 1938 a threisicl cymdeithasol a gynhyrchwyd yn yr 1880au.
Oesoedd Iâ a Phreswylwyr Ogofâu 11 Mai 2007 Oes yr Iâ Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yn yr ogof hon y ffeindiwyd yr olion dynol hynaf yng Nghymru, yn dyddio o oddeutu 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r cyfnod Palaeolithig yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn aml yn 'Oes yr Iâ'. Dyma pryd yr oedd yr hinsawdd yn pendilio rhwng cyfnodau oer iawn (a elwir yn gyfnodau rhewlifol), adegau pan oedd Cymru gyfan dan orchudd o iâ, a chyfnodau cynnes (cyfnodau rhyngrewlifol), fel y cyfnod presennol. Yn ystod hinsoddau cyfnewidiol y cyfnod Palaeolithig yr esblygodd ein hynafiaid cynnar o'u gwreiddiau yn Affrica, ymfudo ar draws Ewrop ac Asia, a datblygu'n fodau dynol modern. Yng Nghymru, daw'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth sydd gennym am fodolaeth cymunedau Palaeolithig o ogofâu. Mae'r rhain i'w canfod lle ceir calchfaen; er enghraifft, mewn rhannau o Sir Ddinbych, Bro Gŵyr a de Sir Benfro. Daw'r dystioaeth sydd gennym am fodau dynol yng Nghymru o safle Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yma, mae cloddiadau wedi dwyn i'r amlwg weddillion ffurfiau cynnar pobl Neanderthalaidd, a oedd yn byw tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Neanderthalaidd Ogof Coygan (Sir Gaerfyrddin). Ni chafwyd hyd i weddillion dynol yma, dim ond llond dwrn o offer sy'n dangos y câi'r ogof ei defnyddio dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd. Roedd pobl Neanderthalaidd yn helwyr ac mae eu hoffer yn dangos y bu'n rhaid iddynt fod yn agos i'w prae er mwyn ei ladd. Nodweddir sgerbydau Neanderthalaidd, a gloddiwyd ar hyd a lled Ewrop, gan nifer fawr o esgyrn toredig, sy'n awgrymu mai'r helwyr eu hunain a gâi eu hanafu'n wael yn aml wrth iddynt hela eu prae. Gwnâi pobl Neanderthalaidd Ogof Pontnewydd offer drwy ddefnyddio cerrig lleol a gesglid yng nghyffiniau'r ogof; mae'r rhain yn cynnwys offeryn nodweddiadol a elwir yn naddyn Levallois. I greu'r rhain, paratoir darn mawr o garreg (a elwir yn graidd) drwy guro darnau oddi ar ei hymylon. Yna, caiff un naddyn Levallois ei fwrw oddi ar y craidd parod. Gellid defnyddio hwn naill ai fel offeryn torri neu, o'i gymhwyso ryw ychydig, fel crafell. Offeryn carreg nodweddiadol arall a ddefnyddid gan bobl Neanderthalaidd oedd llawfwyell 'bout coupé' — llawfwyell o wneuthuriad da ac iddi ben gwastad yn hytrach nag un pigfain. Lawfwyeill Llawfwyeill 'bout coupé' (Ogof Coygan). Mae'r offer hyn yn nodweddiadol o dechnoleg Neanderthalaidd. Cafwyd hyd i lawfwyeill 'bout coupé' yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin, safle sydd bellach wedi'i ddinistrio gan waith cloddio mewn chwarel. Cafodd Ogof Coygan ei defnyddio fel gwylfan dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd rywbryd rhwng 60,000 a 40,000 o flynyddoedd yn ôl. Yna, bu'n ffau a ddefnyddid gan udfilod ar drothwy'r rhewlifiant diwethaf. Mae'n bosibl mai'r dirywiad hwn yn yr hinsawdd yw'r rheswm am dranc y bobl Neanderthalaidd, a ddiflannodd oddi ar wyneb y Ddaear tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. Dynol modern Yn 1823, darganfu William Buckland o Brifysgol Rhydychen sgerbwd yn yr ogof hon. Roedd yr esgyrn wedi'u staenio'n goch a gerllaw iddynt darganfuwyd breichledau a gleiniau cragen. Credai Buckland fod yr esgyrn yn weddillion gwraig, a oedd yn byw yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Bellach, mae gwyddoniaeth fodern wedi profi bod y ddamcaniaeth ddengar hon yn anghywir. Mewn gwirionedd, sgerbwd gŵr tua 25 oed ydoedd, a gladdwyd tua 26,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymddangosodd bodau dynol modern, fel ninnau, am y tro cyntaf tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Nodir ein hymddangosiad gan y defnydd o fath newydd o offer cerrig a wnaed o lafnau tenau, hir a dorrwyd oddi ar flocyn o gallestr. Y llafnau hyn a ddaeth yn sylfaen offer a oedd yn llawer mwy amlddefnydd ar gyfer hela, torri cig ac amrediad ehangach o weithgareddau eraill na'r rheini a ddefnyddid gan y bobl Neanderthalaidd. Datblygodd bodau dynol modern cynnar y gelfyddyd gyntaf hefyd. Mae paentiadau ogofâu o'r cyfnod hwn wedi goroesi yn Ffrainc a gogledd Sbaen — ardaloedd oedd y tu hwnt i derfynau'r rhewlifau. Ym Mhrydain, mae celfyddyd yr ogofâu yn brinnach o lawer, a'r unig enghraifft y gwyddys amdani hyd yma yw'r engrafiad o alpafr, o bosibl, yn un o ogofâu Creswell Crags (Swydd Nottingham). Twll yr Afr — Gladdfa ddynol gynharaf ym Mhrydain Mae gwaith cloddio a drefnwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod pobl yn byw yn yr ogof hon tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl ac eto tua 12,500 o flynyddoedd yn ôl. Yng Nghymru, ni ddarganfuwyd hyd yn oed un enghraifft o gelfyddyd yr ogofâu, hyd yma ond cafwyd hyd i esgyrn ysgythredig a cherfiedig. Efallai mai Twll yr Afr (Gŵyr) yw'r safle mwyaf arwyddocaol i ildio'r math yma o ddeunydd. Yn yr ogof hon y darganfuwyd y gladdfa ddynol gynharaf ym Mhrydain, sy'n dyddio o oddeutu 26,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith yr ogofâu eraill a feddiannwyd gan bobl yn ystod cyfnod cynnar y rhewlifiant diwethaf ceir Cae Gwyn a Ffynnon Beuno (y ddwy yn Sir Ddinbych), ac Ogof Hoyles Mouth (Sir Benfro) a ddefnyddiwyd tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl. Wedi'r cyfnod cynnar hwn, ymestynnodd llenni iâ ar draws Cymru a rhwng 20,000 a 18,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y rhewlifiant yn ei anterth, gorchuddiai'r iâ bobman ac eithrio rhannau mwyaf deheuol y wlad. Mae'n bosibl y gallai pobl fod wedi goroesi'r hinsawdd oer yn y mannau lle nad oedd iâ yn gorchuddio'r tir, drwy ddefnyddio crwyn anifeiliaid a thanau i'w cadw'n gynnes. Ond roedd eu prae wedi hen ymfudo tua'r de, gan eu gadael heb fwyd, ac felly cawsant eu gorfodi i'w dilyn. Tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl dechreuodd y llenni iâ araf encilio ac adfeddiannwyd Prydain gan bobl. Credir iddynt ddychwelyd tua 14,500 o flynyddoedd yn ôl, ond mae'r dystiolaeth gynharaf yng Nghymru, a ddaw o ogofâu fel Twll yr Afr a Hoyles Mouth, yn dyddio o oddeutu 12,500 o flynyddoedd yn ôl. Ar ôl diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf, tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl, mae swmp y dystiolaeth am bresenoldeb pobl yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol ac yn newid o ran ei chymeriad. Defnyddir y dyddiad hwn i ddynodi diwedd y cyfnod Palaeolithig a dechrau'r Mesolithig. Darllen Cefndir Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan Stephen Green ac Elizabeth A. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991). Background Reading Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales by Stephen Green and Elizabeth A. Walker. Published by the National Museum of Wales (1991).
Paun paentiedig tref Rufeinig Caer-went 10 Mai 2007 Paun Caer-went. Defnyddiwyd sawl lliw i greu'r paun - gwahanol fathau o las, melyn, gwyrdd a choch. Wrth gloddio caer Rufeinig Caerllion, 10km (6 milltir) o Gaer-went, darganfuwyd amrywiaeth o bigmentau gwreiddiol. Roedd y rhain yn cynnwys coch ac ocr melyn, yn ogystal â phelen o'r lliw glas Eifftaidd prin iawn. Detholiad o'r mwynau naturiol a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid i wneud pigmentau. Mae'r rhain yn dangos pa mor llachar oedd y lliwiau oedd ar gael i beintwyr muriau Rhufeinig. Dengys yr adluniad hwn o'r paun sut y byddai wedi edrych, o bosibl, pan gafodd ei beintio gyntaf. Rhoddir y pigment ar y plastr tra bod hwnnw'n dal i fod yn wlyb, ac yna mae'n glynu wrth y mur wrth iddo sychu. Peintio ffresgo yw'r enw ar y dechneg hon. Mae astudiaeth o furlun brau o Gaer-went wedi dwyn i'r amlwg rai dylanwadau cosmopolitanaidd oedd yn effeithio ar fywydau brodorion Prydain. Daeth y goresgyniad Rhufeinig â rhannau o Gymru i gysylltiad uniongyrchol ag arferion a soffistigedigrwydd Rhufain yr ymerodraeth Rufeinig. I frodorion cyfoethog Prydain, cynigiai'r cysylltiad hwn gyfle i rannu ffordd o fyw'r goresgynwyr, ac i'r crefftwyr roedd yn cynnig cyfle i ennill cwsmeriaid newydd a gwneud mwy o elw. Un grŵp o grefftwyr a elwodd, yn fwy na thebyg, ar y Rhufeineiddio hwn ym Mhrydain oedd yr arlunwyr medrus. Yn y byd Rhufeinig roedd yn gyffredin i'r cyfoethogion gael paneli lliwgar, patrymau blodeuol, neu olygfeydd o fytholeg wedi eu peintio ar furiau ac weithiau ar nenfydau eu hystafelloedd. Ond, cyn y goresgyniad Rhufeinig, nid oedd murluniau o'r math yma i'w cael ym Mhrydain - dyma grefft newydd ac un y manteisiwyd arni ymhen dim o dro. Cafwyd hyd i blastr mur peintiedig ar sawl safle yng Nghymru: ar safleoedd milwrol lle'r oedd adeiladau'r pencadlys a'r baddonau yn fynych wedi'u peintio, ac yn y byd sifil lle câi peintiadau eu defnyddio i addurno adeiladau cyhoeddus, plastai trefol a filâu. Yn nhref Rufeinig Caer-went y mae peth o'n tystiolaeth orau am waith yr arlunwyr murluniau. Un enghraifft sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i archaeolegwyr yw'r paentiad o baun a ddaeth o dŷ a godwyd yng Nghaer-went ddiwedd y drydedd ganrif OC, ac a gloddiwyd yn y 1980au. Mae gweddillion y paun yn ddarniog iawn ond mae digon ohono wedi goroesi i'n galluogi i ail-greu ei olwg wreiddiol. Byddai wedi cael ei beintio ar ffurf ffresgo, hynny yw, pan oedd y plastr yn dal i fod yn wlyb, a'r lliwiau'n ymdreiddio i'r wyneb wrth iddo sychu. Er bod y paun ei hun yn gelfwaith, y pigmentau y lluniwyd y paentiad ohono sy'n rhoi'r rhan fwyaf o'r wybodaeth i ni ynglŷn â'r dylanwadau cosmopolitanaidd ar fywyd Prydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Er enghraifft, lliw gwneud yw'r pigment glas. Fe'i ddatblygwyd yn yr Aifft yn gyntaf ond yna fe'i cynhyrchwyd yn yr Eidal, lle aeth gŵr busnes cefnog ati i'w gynhyrchu yn ystod y ganrif gyntaf OC. Fe'i cynhyrchwyd drwy dwymo cymysgedd o dywod, natron a chopor, ac fe'i gwerthwyd ledled yr ymerodraeth ar ffurf pelenni bach a gâi eu malu gan yr arlunydd yn ôl y galw. Sinabar neu fermiliwm (sylffid mercwrig) yw'r lliw coch llachar yn y llun. Câi ei fwyngloddio yn Sisapo, Sbaen a'i ddosbarthu o Rufain. Roedd masnachu'r lliw mor broffidiol fel y bu'n rhaid i'r llywodraeth sefydlu'r pris er mwyn ei atal rhag codi. Cafwyd hyd iddo ar 20-30 o safleoedd yn unig ym Mhrydain, sydd yn fesur o'i brinder. Ni chafodd pob un o'r pigmentau eu mewnforio o wledydd tramor - yn ôl pob tebyg cafodd rhywfaint o'r ocr coch yn y paun ei fwyngloddio'n lleol, yn Fforest y Ddena o bosibl. Fodd bynnag, mae presenoldeb y pigmentau egsotig yn dynodi llawer iawn mwy na chwaeth artistig yn unig. Byddai'r paun peintiedig yn datgan i bawb a ymwelai â'r tŷ fod ei berchennog yn gyfarwydd â'r moethusion oedd yn rhan annatod o diriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig, ac y gallent fforddio prynu'r fath bethau moethus. Darllen Cefndir Wall-painting in Roman Britain gan N. Davey a R. Ling. Cyhoeddwyd gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Astudiaethau Rhufeinig (1981).
Sidanau o Loegr a wisgid yn Nhŷ Tredegar 8 Mai 2007 Tŷ a Pharc Tredegar. Bellach, mae'r tŷ a'r tir o'i gwmpas yn eiddo i Gyngor Sir Casnewydd. Mae nifer o'r ystafelloedd a adnewyddwyd ar agor i'r cyhoedd. Llun © Steve Burrow. Cot fer gŵr, yn dyddio o'r 1720au cynnar. Taffeta gwyn ac iddo batrwm les yw'r defnydd. Yn ôl pob tebyg, cafodd y got hon ei gwisgo gan Syr William Morgan. Fe'i gwnaed naill ai yn Lloegr neu Ffrainc o sidan melyn ac iddo batrwm les ac mae'n dyddio o oddeutu 1725. Gŵn llys o sidan caerog glas wedi'i frodio ag arian (gŵn ac iddo flaen agored a godre cywrain), a wnaed yn y 1720au. Gwisg sidan a phais a wnaed yn Lloegr tua 1745-47. Er i'r wisg gael ei hail-lunio, mae'r defnydd mewn cyflwr da. Ar gefndir o daffeta melyn ceir streipiau cannelé gwyn, a'r cyfan wedi'i frocedio â rhosod a luniwyd o edau sidan. Yn ystod y ddeunawfed ganrif bu teulu Morgan o Dŷ Tredegar yn gyfrifol am gasglu ynghyd gasgliad pwysig o ddillad sidan oedd yn tystio i'w cyfoeth a'u statws. Yn ystod y 18g. gellid mesur safle cymdeithasol gŵr bonheddig ar sail ansawdd ei dŷ neu ei ddillad - mynegiant o statws oedd gwisgo sidan, les neu edau aur ddrudfawr. Byddai teuluoedd o Gymru'n prynu sidanau gweëdig, cynnyrch diwydiant sidan Spitalfields yn Llundain, ac yn ddod â nhw nôl i Gymru i ddodrefnu eu tai, i wneud dillad a gwneud argraff ar eu cymdogion. Morganiaid Tŷ Tredegar, Arglwyddi Tredegar yn ddiweddarach, oedd yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru. Roedd ganddynt lenni sidan cyfoethog yn eu cartref, yn ôl y disgrifiad hwn a o restr a baratowyd ym 1698: "4 green Silke Damask chequer curtains flowred with gold colour and lined with white chequer silke with double valiance, foot valiance, teaster and quilte imbroidred with Silke frings." Yn yr un ystafell wely roedd pedair llen ffenestr o sidan caerog gwyn a saith clustog sidan a oedd yn cyd-fynd â chroglenni'r gwely. Roedd gorchuddion oren yn eu hamddiffyn nhw i gyd. Yn ogystal, byddai'r Morganiaid yn gwisgo'r sidanau caerog gweëdig a'r sidanau eurbleth gwychaf a mwyaf ffasiynol. Mae rhai ohonynt, a gafwyd yn rhoddion gan Arglwydd Tredegar ym 1923, i'w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r casgliad hwn yn cynnwys dillad sidan a wnaed yn Lloegr, ac mae'r mwyafrif yn dyddio o ganol y 18g. Mae un wisg a phais o Ffrainc yn dyddio o gyfnod cynharaf cofnod 1698. Mae'n bosibl mai Martha Morgan oedd piau'r rhain. Roedd Martha'n wraig Thomas Morgan, aelod o deulu Mansel, Margam (a Phen-rhys yn ddiweddarach), ac un o deuluoedd cyfoethocaf y sir. Dilynwyd Thomas Morgan gan ei frawd, a ychwanegodd yn sylweddol at faint y stadau. Pan etifeddodd ei fab yntau, Syr William Morgan, yr eiddo ym 1719, roedd modd iddo fentro ar ffordd liwgar iawn o fyw. Ym 1724 priododd Syr William â'r Foneddiges Rachel Cavendish, merch Dug Dyfnaint, a chanddi waddol o £20,000. Mae sawl dilledyn o Dŷ Tredegar yn dyddio o'r cyfnod rhwng 1720 a 1731, pan bu farw William. Mae pob un o'r gwisgoedd hyn yn cydweddu â chwaeth Syr William, oedd yn enwog am ei afradlonedd - ym 1725 gwariodd £37,418 - ac yn ôl pob tebyg prynoddd pob un o'r gwisgoedd yn Llundain. Bu i'r Foneddiges Rachel fyw am hanner can mlynedd wedi marwolaeth ei gŵr, a threuliodd ei hamser yn gofalu am fuddiannau ei phlant. Pan fu farw ei hunig fab heb briodi ym 1763, fe gollodd hi frwydr yn y llysoedd ac etifeddodd ei brawd-yng-nghyfraith Thomas Morgan y stad. Mae'r rhan fwyaf o wisgoedd eraill Tredegar yn perthyn i'r cyfnod hwn ac yn ôl pob tebyg, y Foneddiges Rachel, neu Jane, wyres John Morgan (a aned ym 1731), a briododd ym 1758 ac a etifeddodd y stad yn ddiweddarach, oedd piau'r dillad hyn. Gan nad oes un o sidanau Tredegar yn dyddio o'r cyfnod wedi marwolaeth y Foneddiges Rachel, mae'n demtasiwn credu fod y cyfan yn eiddo iddi hi ac iddynt gael eu rhoi i gadw wedi iddi farw. Yna, yn ystod y ganrif ddilynol, cawsant eu hailddarganfod gan y teulu a'u hystyried yn addas i'w defnyddio fel gwisgoedd ffansi. Darllen Cefndir "Social conditions at Tredegar House Newport in the 17th and 18th centuries", gan M.R. Apted. Yn Monmouthshire Antiquarian, cyf. 3:2, tt.124-54 (1972-3). Tredegar House gan David Freeman. Cyhoeddwyd gan Adran Gweithgareddau Hamdden Casnewydd (1982, cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig ym 1998). Silk designs of the 18th century in the collection of the Victoria & Albert Museum gan Natalie Rothstein. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Victoria ac Albert (1990). Woven Textile Design in Britain to 1750 gan Natalie Rothstein. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Victoria ac Albert (1994). "A court mantua of c.1740 by Janet Arnold". Yn Costume (Journal of the Costume Society), cyf. 6, tt.48-52 (1972).