Casgliadau ac Ymchwil

Teigr Newydd ar gyfer Amgueddfa Cymru

Jennifer Gallichan, 17 Mawrth 2017

Croeso Bryn, ein sbesimen hanes natur diweddaraf.

Ffotograff o Bryn, spesimen Teigr Swmatraidd sy'n rhan o gasgliad hanes natur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bryn y Teigr Swmatraidd

Teigr Swmatraidd yw Bryn. Treuliodd ei fywyd yn Sw Mynydd Cymru ym Mae Colwyn fel un o’r trigolion mwyaf eiconig. Yn ystod ei fywyd, rhoddodd bleser mawr i ymwelwyr y sw, gan helpu i godi proffil cyflwr y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol. Roedd ganddo bersonoliaeth hamddenol a hoffus ac roedd yn rhan allweddol o’r profiadau ‘Ciper am Ddiwrnod’ a ‘Cyfarfod Anifail’ yn Sw Mynydd Cymru. Bu farw o achosion naturiol ym mis Awst 2016, yn 17 oed. Wrth sefyll ar ei bwys, cewch deimlad go iawn o harddwch a phŵer yr anifeiliaid anhygoel hyn.

Dim ond ar ynys Swmatra yn Indonesia y mae Teigrod Swmatraidd yn byw ac mae ymdrechion cadwraeth sylweddol ar waith ledled y byd. Mae eu niferoedd wedi gostwng yn ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf er gwaethaf yr ymdrechion hyn, ac amcangyfrifir bod llai na 400 o deigrod ar ôl yn eu cynefin. Mae colli cynefinoedd, masnach anghyfreithlon a diffyg bwyd i gyd wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn. Mae’r teigrod yn byw mewn amrywiaeth eang o goedwigoedd – o iseldiroedd arfordirol i fynyddoedd – ac mae’n well ganddyn nhw goedwigoedd tawel sydd heb eu haredig gydag isdyfiant dwys a llethrau serth. Mae miliynau o erwau o’r coedwigoedd hyn yn cael eu torri bob blwyddyn i wneud lle i’r planhigfeydd cnydau dwys fel olew palmwydd ac acasia. Mae hyn yn golygu bod llai o ysglyfaeth iddyn nhw eu hel, a bod poblogaeth teigrod bellach yn dameidiog, gan beryglu’r broses o adfer y rhywogaethau. Mae masnachu darnau o deigrod yn anghyfreithlon yn dal i fod yn gyffredin er gwaethaf diogelwch cenedlaethol a rhyngwladol llawn, ac mae darnau o deigrod dal ar werth yn agored ar yr ynys.

Felly pam cael Teigr Swmatraidd mewn amgueddfa yng Nghymru? Pam cael anifeiliaid wedi’u stwffio o gwbl? Mae hyn yn gwestiwn sy’n cael ei ofyn yn aml yn yr Amgueddfa. Yn gyntaf, mae amgueddfeydd yn chwarae rhan bwysig fel stordai ar gyfer bioamrywiaeth, drwy roi cofnod o rywogaethau ar gof a chadw. Er enghraifft, mae gennym anifeiliaid diflanedig fel y Thylacine (Blaidd o Tasmania) a’r Carfil Mawr, a sgerbwd Dodo hyd yn oed, yn ein casgliadau. Gyda niferoedd teigrod Swmatraidd mor isel, mae’n bwysicach nawr nag erioed ein bod yn cadw cofnod o’r rhywogaeth hon.

Yn ail, mae creaduriaid eiconig yn rhan bwysig o gasgliadau amgueddfeydd. Mae fertebriaid yn cael llawer mwy o sylw cyhoeddus nag unrhyw grŵp arall o anifeiliaid neu blanhigion. Yn aml iawn, maen nhw’n ddel ac yn apelgar, ac felly’n dod yn symbolau ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o faterion cadwraeth. Gall y creaduriaid hyn gael eu defnyddio i hoelio sylw’r cyhoedd ac i siarad am amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar fywyd gwyllt ledled y byd. Fel lleoliad di-dâl, rydym mewn lle da i ymgysylltu pobl gyda’r byd o’u cwmpas. Yn aml iawn, amgueddfeydd yw un o’r llefydd cyntaf y mae pobl yn cael golwg agos ar fywyd gwyllt. Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa wych i siarad am y bygythiad i fywyd gwyllt, nid yn unig dramor ond ar garreg y drws. Cofiwch, nid anifeiliaid egsotig mewn llefydd pellennig yn unig sydd mewn perygl. Yr anifeiliaid ‘rhwysgfawr’ hyn yw’r ‘fynedfa’ i anifeiliaid llai rhodresgar ond sydd eto’n wynebu’r un perygl, megis Cragen Las Berlog, Britheg Frown neu Ddafad-Frathwr. Boed yn deigr o Swmatra neu’n durtur o’r DU – yr un yw’r neges. Rydym am i’n hymwelwyr fod yn fwy ymwybodol o’r byd naturiol o’u cwmpas a rhoi’r pŵer iddyn nhw gymryd rhan fwy actif wrth ei fwynhau a’i warchod.

Bryn fydd canolbwynt ein Diwrnod Teigr Cenedlaethol, 29 Gorffennaf 2017, felly bydd cyfle i chi ddod i weld y creadur enigmatig hwn gyda’ch llygaid eich hun. Dewch â’ch teuluoedd a chymerwch ran mewn gweithgareddau, dysgwch fwy am beth mae amgueddfeydd yn eu gwneud gyda’u casgliadau a beth allwch chi ei wneud i ddiogelu teigrod fel Bryn.

Gallwch chi ddysgu mwy am Deigrod Swmatraidd a’r gwaith o’u gwarchod ar wefan y WWF.

Gallwch chi ddysgu mwy am warchod bywyd gwyllt Prydain ar wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, a gwefan yr RSPB.

Gallwch chi ddysgu mwy am y casgliadau o anifeiliaid asgwrn cefn ar wefan Amgueddfa Cymru.

Darnau Arian Ffug

Rhianydd Biebrach, 16 Mawrth 2017

Cafodd y person olaf ei ddienyddio am ffugio arian ym 1830 a chafodd ffugwyr oes Fictoria eu cosbi drwy alltudiaeth, carchar a llafur caled. Y gosb ar gyfer ffugio arian heddiw yw blynyddoedd yn y carchar.

Fuoch chi erioed yn euog o wario darnau arian ffug?

Hanner coron Siarl I ffug. Mae’r metel cyffredin rhydlyd i’w weld yn blaen drwy’r plât arian tenau.

Hanner coron Siarl I ffug. Mae’r metel cyffredin rhydlyd i’w weld yn blaen drwy’r plât arian tenau.

Gobeithio mai’ch ateb fydd, “naddo, siŵr iawn!”, ond a fyddech chi’n gallu adnabod arian ffug o’i weld?

Yn ôl y Bathdy Brenhinol, roedd ychydig dros 2.5% o’r darnau punt a oedd yn cael eu defnyddio yn 2015 yn rhai ffug, felly sawl un ohonom ni sydd wedi torri’r gyfraith heb yn wybod i ni drwy drafod arian ffug? Nid problem fodern mohoni, chwaith. Efallai y synnwch o glywed bod darnau arian ffug wedi bod yn achosi pen tost i’r awdurdodau ers miloedd o flynyddoedd – ers i ni ddechrau defnyddio arian a dweud y gwir.

O bryd i’w gilydd, bydd pobl sydd wedi dod o hyd i geiniogau gyda datgelydd metel yn hysbysu’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru) amdanynt ac yn cael gwybod bod rhywbeth o’i le - ac mai ceiniogau ffug ydynt. Yn 2015, o’r 679 o ddarnau arian a ddaeth at sylw’r Cynllun, barnodd arbenigwyr Amgueddfa Cymru mai darnau ffug cyfoes oedd saith ohonynt. Disgrifiwyd llawer o’r lleill fel rhai ‘afreolaidd’ ac felly roedd y rhain hefyd wedi’u cynhyrchu o dan amgylchiadau amheus.

Un o’r darnau ffug oedd hanner coron Siarl I, a gafodd ei darganfod gan Mr Nick Mensikov ym Meisgyn, Rhondda Cynon Taf. Darn arian yw hanner coron, ond roedd hi’n amlwg mai un ffug oedd hanner coron Mr Mensikov oherwydd bod cyrydiad yn dangos mai darn o aloi copr wedi’i orchuddio â haen denau o arian ydoedd. Fel newydd, byddai wedi ymddangos yn ddigon dilys i chi a fi, ond byddai’n werth llai o lawer na gwir werth hanner coron, sef deuswllt a chwe cheiniog (neu un wythfed o bunt).

Mae deuddeg darn arian ffug o gyfnod teyrnasiad Siarl I wedi cael eu darganfod yng Nghymru a’u hadrodd i PAS Cymru ers 2009, mwy o lawer nag unrhyw frenin neu frenhines arall, ond mae’r mwyafrif helaeth yn hŷn o lawer ac yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid, o’r ganrif gyntaf i ddechrau’r bumed ganrif OC.

Mae un o’r darnau hanner coron Siarl I hyn yn un ffug hefyd. Allwch chi ddweud pa un?

Mae un o’r darnau hanner coron Siarl I hyn yn un ffug hefyd. Allwch chi ddweud pa un?

Pwy oedd yn gwneud arian ffug, a pham?

Câi darnau arian ffug eu cynhyrchu am sawl rheswm yn y gorffennol. Weithiau, pan nad oedd digon o’r ceiniogau gwerth is, byddai pobl yn mynd ati i’w cynhyrchu’n answyddogol er mwyn gwneud yn iawn am y diffyg. Ym Mhrydain y Rhufeiniaid, roedd yr arfer hwn mor gyffredin fel ei bod yn bosibl bod llawn cymaint o ddarnau arian ffug yn cael eu defnyddio â rhai iawn ar rai cyfnodau. Ar ôl i Claudius lanio yma yn 43 OC, hwyrach fod y fyddin Rufeinig ei hun wedi bod yn gyfrifol am lawer o’r arian ‘afreolaidd’ hwn. Weithiau byddai llywodraethau’n goddef yr arian ffug fel rhywbeth annymunol ond angenrheidiol.

Mewn achosion eraill, byddai pobl yn ffugio darnau arian am un rheswm syml - i wneud elw. Wrth gwrs, nid ar chwarae bach roedd gwneud hyn. Roedd angen cyflenwad o fetel, ffwrnes neu grwsibl, ac offer o bob math, yn cynnwys deiau neu fowldiau gyda chopi digon da o’r darn arian i’w atgynhyrchu wedi’i ysgythru arnynt. Roedd hyn yn golygu bod mwy nag un person yn rhan o’r fenter gan amlaf, a bod angen rhywfaint o fuddsoddiad ariannol cyn cychwyn. Felly nid gobaith olaf dynion neu fenywod tlawd heb unrhyw ffordd arall o gael arian oedd y mentrau hyn. Roedd rhai ‘bathwyr’, eisoes yn unigolion cefnog. Ym 1603, darganfuwyd menter fathu yng Nghaer Duncannon yn Iwerddon. Daethpwyd o hyd i fowldiau, darnau o bres, crwsiblau, ynghyd â chemegau a golosg, yn nesg cadlywydd y gaer, Syr John Brockett. Roedd Syr John wedi bod yn cynhyrchu darnau arian Seisnig a Sbaenaidd ffug, a chafodd fynd o flaen ei well am frad.

Doedd dim bwriad defnyddio rhai o’r darnau ffug fel arian bob dydd, serch hynny. Cyn belled yn ôl â’r 16eg ganrif, roedd hynafiaethwyr a chasglwyr wedi dechrau ymddiddori mewn hen ddarnau arian, ac o ganlyniad dechreuodd rhai unigolion diegwyddor wneud busnes o gyflenwi darnau ffug i demtio’r diniwed. Yn Llundain ar ddechrau oes Fictoria, bu dyn o’r enw Edward Emery yn gyfrifol am ychwanegu 5–7,000 o ddarnau ffug o’r oesoedd canol a chyfnod y Tuduriaid at y farchnad casglwyr. Roedd darnau arian Rhufeinig yn boblogaidd tu hwnt hefyd, a chafodd darn ffug a gynhyrchwyd yn yr oes fodern ei ddarganfod gan Mr Rogers ym Mrynbuga yn 2007. Roedd wedi’i wneud o aloi metal cyffredin gwyn er mwyn edrych fel arian. Tybed a wnaeth y perchennog ei daflu i ffwrdd yn ei ddicter pan sylweddolodd ei fod wedi cael ei dwyllo?

Sut roedd darnau arian ffug yn cael eu creu?

Roedd dau brif ddull o gynhyrchu darnau arian ffug - eu curo o ddeiau a oedd wedi’u dwyn neu eu ffugio, neu eu castio mewn mowldiau. Roedd menter bathu darnau arian yn Iwerddon ym 1601 yn defnyddio deiau sialc a metel i guro’r darnau, a oedd wedi’u gwneud o aloi a oedd yn cynnwys digon o dun i greu’r lliw arian angenrheidiol, ond nid oedd y darnau, wrth reswm, yn cynnwys unrhyw fetel gwerthfawr. Roedd hyn yn amlwg yn waith swnllyd ac felly roedd mentrau o’r fath yn aml wedi’u lleoli mewn ardaloedd prysur fel canol trefi lle byddai’r sŵn a’r gweithgarwch yn cael eu celu gan y mynd a’r dod ar y strydoedd, neu mewn mannau anghysbell y byddai pobl yn annhebygol o fynd iddynt. Dyma oedd dewis y ffugwyr Rhufeinig a oedd wrthi’n bathu arian ffug yn y mwynglawdd plwm yn Nraethen, ger Caerffili, lle daethpwyd o hyd i ddarnau arian, y ‘fflaniau’, neu’r darnau metel gwag, a ddefnyddiwyd i guro’r darnau ffug, yn ogystal â’r ffyn metel y torrwyd y fflaniau oddi arnynt. Darganfuwyd yr eitemau hyn o amgylch lle tân, ac ni allwn ond dyfalu pa mor boeth, annifyr a pheryglus oedd creu darnau arian o dan y ddaear fel hyn. Roedd castio’n broses wahanol, ond roedd gofyn cael ffynhonnell bwerus o wres serch hynny am fod angen metel tawdd. Gwnaed argraff o ddwy ochr darn arian go iawn mewn clai, cwyr neu ludw. Yna, ar ôl iddynt galedu byddai’r mowldiau’n cael eu rhoi at ei gilydd a’u llenwi ag aloi metel tawdd. Mae modd dweud bod rhai darnau arian wedi cael eu castio am nad yw’r sianel lle cafodd y metel ei dywallt wedi cael ei thorri i ffwrdd neu ei llyfnu yn iawn. Mae digon o dystiolaeth i ddangos bod y dull hwn o ffugio ar waith yn Llundain adeg y Rhufeiniaid, yn cynnwys y darnau a gastiwyd eu hunain (mewn aloi efydd neu dun lliw arian yn aml) ynghyd â channoedd o fowldiau.

Nid defnydd cyfrwys o aloiau oedd yr unig ffordd o ffugio metel drudfawr er mwyn creu darnau arian a oedd yn argyhoeddi (roedd rhai’n cynnwys arsenig er mwyn gwynnu’r metel!). Roedd rhai darnau – fel yr hanner coron Siarl I y soniwyd amdani gynt – yn cael eu gwneud o fetelau cyffredin ac yna’n cael eu platio â haen denau o arian neu aur er mwyn iddynt edrych fel y dylent. Roedd darnau ffug yr Oesoedd Canol yn aml yn defnyddio techneg o’r enw euro â thân. Byddai darn gwag o fetel cyffredin yn cael ei rwbio â chymysgedd o aur a mercwri ac yna’n cael ei gynhesu. Byddai’r mercwri’n anweddu a’r aur yn cael ei fondio i wyneb y metel. Yna byddai modd curo’r darn rhwng y deiau.

Yn amlwg, roedd y broses hon yn gofyn am rywfaint o sgil dechnegol, ac mae yna dystiolaeth fod ffugwyr yn arbrofi gyda dulliau a fyddai’n cael eu defnyddio at ddibenion mwy cyfreithlon maes o law. Gwelwyd bod darn arian ffug yn dyddio o deyrnasiad Wiliam III (1689–1702) wedi cael ei wneud gan ddilyn enghraifft gynnar o dechneg platio Sheffield. Byddai plât copr yn cael ei rolio neu ei forthwylio rhwng dwy haen denau o arian, cyn torri’r darnau arian gwag ohonynt. Yna, byddai’r ymylon yn cael eu gorchuddio ag aloi copr ac arian cyn i’r darnau gwag gael eu curo gyda deiau swyddogol wedi eu smyglo allan o fathdy Llundain.

Byddai’r aur a’r arian oedd eu hangen ar gyfer y platio yn cael eu cyflenwi drwy docio arian go iawn (a oedd yn drosedd ynddo’i hun) yn ogystal â thoddi darnau o blât neu ddarnau arian eraill.

Cosbau

Roedd y cosbau llym ar gyfer ffugio arian yn adlewyrchu natur ddifrifol y drosedd ond hefyd pa mor anodd oedd dod o hyd i’r troseddwyr. Fel llawer o gosbau yn y cyfnod cyn fodern, roeddent yn gosbau corfforol eu natur. Yn yr hen Rufain, roedd yn drosedd ddifrifol iawn, a oedd yn gyfystyr â brad, a’r gosb oedd alltudiaeth neu gaethwasiaeth os oeddech chi’n lwcus neu, fel arall, byddech yn cael eich croeshoelio. Ar ddechrau’r 4edd ganrif, cyflwynodd yr Ymerawdwr Cystennin – sy’n enwocach am wneud Cristionogaeth yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig – losgi fel cosb i ffugwyr.

Yn Lloegr yn y 10fed ganrif, o dan y brenin Athelstan (927–939), byddai’r ffugiwr yn colli llaw, ond aeth un o’i olynwyr Normanaidd, Harri I (1100–1135), un yn well. Ac yntau’n amau bod gweithwyr ei fathdy swyddogol yn cynhyrchu arian afreolaidd yn ddistaw ar y slei ac yn anfodlon â safon yr arian rheolaidd, gorchmynnodd iddynt ddod i Gaer-wynt i ddathlu’r Nadolig a thorrodd law dde a cheilliau pob un ohonynt i ffwrdd.

O dan Edward I a brenhinoedd diweddarach, marwolaeth drwy grogi oedd y gosb arferol i ddynion, gyda menywod yn cael eu llosgi a’u tagu. Dioddefodd tair anffodus y gosb erchyll hon yng Nghaeredin yn yr 16eg ganrif, ac ym 1560 cafodd Robert Jacke, masnachwr o Dundee, ei grogi a’i chwarteru, dim ond am fewnforio arian ffug. Cafodd 19 o bobl y gosb eithaf am ffugio arian ym 1697 pan oedd Syr Isaac Newton yn Warden y Bathdy Brenhinol.

It just keeps coming back: dust

Christian Baars, 13 Mawrth 2017

We wrote of dust before, for example here and here. The museum is like your home, dust gathers everywhere. Unlike my own house though, the museum is very, very big. The museum's dust problems are correspondingly large.

Last year a student from Cardiff University, Stefan Jarvis, undertook a dust monitoring project in the museum. Stefan was studying for an MSc in Care of Collections, which is a subject very close to my heart. Stefan is also the author of one of our guest blogs. Stefan placed a large number of dust traps around the museum building: in stores and exhibition galleries. You may be familiar with some of the galleries he investigated: our Geology gallery with the dinosaurs, the current “Wriggle” exhibition on worms, the Whale gallery and the Organ gallery where we display some of the largest paintings in the museum.

Collecting dust is really easy: prepare a sampler. Leave it out in a suitable location. Wait. For. Four. Weeks.

Once Stefan had gathered some dust he analysed the samples: he identified each particle under the microscope and determined where they all came from. This is where things started getting really interesting. For while undertaking scientific investigations are often laborious and involves much routine work, the results are often extremely illuminating.

This is what Stefan found:

  • More dust accumulates in areas of high traffic (i.e., many people walking past).
  • More dust accumulates at low levels (the closer you get to floor level the more dust you will find).
  • Dust composition differs between spaces. For example, most dust fibres in a library store are paper fibres, while most fibres in public galleries are textile fibres, hair and skin.
  • We found biscuit crumbs on the dust samplers in two galleries. This indicates that food was being consumed in these galleries.

Now, we love having people in the museum. In fact we undertake some of our collection care work during museum opening hours so that you can see what we are up to a lot of the time. Therefore, we are happy to accept that visitors always leave us a little reminder that they have been, in the form of a few dust particles. You can feel a ‘but’ coming on: but we do not encourage the eating of biscuits (or any other foodstuffs) in our galleries. Eating food in our galleries bears the risk of small amounts of food ending up on the floor, in displays, behind cupboards - or, as part of dust. Food encourages the spread of pest insects which, once they have eaten all the available biscuit crumbs, then start munching our collections. This is not something we endorse, because we try to preserve our collections for you to enjoy.

This means you can actually help us preserve the collections - by not eating in the galleries. We will be doing more work on this in the near future, by encouraging visitors to consume food in our fabulous restaurant or cosy cafe, not in galleries. In the meantime, we really do appreciate your cooperation and understanding for our no-food-in-galleries policy.

Find out more about Care of Collections at Amgueddfa Cymru - National Museum Wales here.

 

 

 

Digideiddio'r Stiwt

Richard Edwards, 10 Mawrth 2017

Ym Medi 2017 bydd Institiwt y Gweithwyr Oakdale yn dathlu ei gan-mlwyddiant. Wedi ei adeiladu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mi roedd unwaith yn ganolbwynt gymdeithasol bwysig i drigolion pentref Oakdale. Symudwyd yr adeilad i’r Amgueddfa yn 1989 ac i nodi penblwydd yr adeilad eleni, mae’r Amgueddfa wedi lawnsio prosiect #Oakdale100. Bwriad y prosiect yw ail-ddehongli’r adeilad a’i ddod yn fyw unwaith eto gyda lleisiau’r gymuned.

Fel rhan o’r gwaith paratoi, mae staff yr Amgueddfa wedi ail-ymweld ag archifau’r adeilad, gan dynnu ynghyd ffotograffau, cyfweliadau hanes llafar a gwrthrychau perthnasol. Dwi wedi bod yn edrych ar y casgliad ffotograffau yn benodol. Gyda chymorth yr Adran Ffotograffiaeth, rydym wedi digideiddio cannoedd o ddelweddau a oedd gynt ar gael ar ffurf negatifau yn unig. Mae’r ffotograffau hyn yn dangos ystod y digwyddiadau ar gweithgareddau a oedd yn cael eu cynnal yn y Stiwt – o ymweliad y Tywysog Albert yn 1920 i berfformiadau dramatig y 50au. Maen nhw hefyd yn dogfennu pensaerniaeth yr adaeilad a manylion yr ystafelloedd mewnol. Fy hoff lun i yw hwnnw o’r bachgen yn ei arddegau yn pori silffoedd y llyfrgell.

Yn ogystal â digideiddio’r deunydd sydd eisoes yng nghasgliad yr Amgueddfa, rydym hefyd wedi bod yn brysur yn ymgysylltu gyda’r gymuned yn Oakdale heddiw. Llynedd cynhaliwyd gweithdy galw-heibio yn y pentref i annog trigolion yr ardal i rannu storiau ac i sganio eu ffotograffau ar gyfer archif yr Amgueddfa a Casgliad y Werin.

Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi agor tudalen Facebook ar gyfer y prosiect ac mae’r ymateb wedi bod yn anghygoel! Mae llu o bobl wedi cyfrannu eu hatgofion, gadael sylwadau a rhannu delweddau ar y dudalen. Yn ddi-os, mae Facebook yn adnodd gwych i ail-gysylltu gyda’r gymuned.

Os oes gennych unrhyw storiau neu ffotograffau sy’n gysylltiedig â Stiwt Oakdale, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein boddau i weld unrhyw ffotograffau o bartion neu gigs yn y Stiwt yn ystod y 1960au-80au.

Neges y Nodwydd – Baner y Cardiff & District Women’s Suffrage Society

Elen Phillips, 8 Mawrth 2017

Heddiw – 8 Mawrth – mae amgueddfeydd ac archifdai ledled Cymru yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. #BeBoldForChange yw’r thema eleni – neges amserol, gwta chwe wythnos wedi’r orymdaith fawr yn Washington DC a thu hwnt. Yn y blog hwn, mi fydda i’n trafod gwrthrych o’r casgliad sy’n amlygu ysbryd debyg ar waith yn 1911-13 – sef baner a ddefnyddiwyd gan y Cardiff & District Women’s Suffrage Society i fynnu’r bleidlais i fenywod.

Dull di-drais

Er mai hynt a helynt y swffragetiaid oedd yn hawlio sylw’r wasg, roedd mwy o lawer o ‘suffragists’ yn bodoli yng Nghymru. Roedd y ‘suffragists’ yn credu mewn gweithredu heddychlon a newid y drefn drwy ddulliau cyfansoddiadol. Yn eu plith, roedd aelodau’r Cardiff & District Women’s Suffrage Society. Hon oedd y gangen fwyaf o’r National Union of Women's Suffrage Societies tu allan i Lundain. Rose Mabel Lewis (Greenmeadow, Tongwynlais) oedd wrth y llyw yng Nghaerdydd – neu Mrs Henry Lewis fel y cyfeirir ati yn nogfennaeth yr Amgueddfa! Yn gyffredinol, roedd aelodau blaenllaw'r gangen yn fenywod dosbarth canol a oedd yn adnabyddus o fewn mudiadau a chylchoedd cymdeithasol y ddinas. I godi ymwybyddiaeth o’u hachos ac i lenwi coffrau’r gangen, roedden nhw’n cynnal digwyddiadau ac yn gwerthu copïau o gylchgrawn y mudiad, The Common Cause. Mae adroddiad blynyddol y gangen ar gyfer 1911-12 yn rhestru gweithgareddau di-ri, yn eu plith dawns gwisg ffansi, gyrfa chwist a ffair sborion. Yn y flwyddyn honno, dyblodd nifer aelodau’r gangen i 920.

Crefft ymgyrchu

Rose Mabel Lewis bwythodd y faner sidan sydd bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa – enghraifft bwerus o rym y nodwydd fel arf i ledaenu neges ac i fynegi barn. Er nad ydym yn gwybod union ddyddiad y faner, rydym yn sicr iddi gael ei defnyddio mewn protest yn 1911. Ar 17 Mehefin y flwyddyn honno, arweiniodd Rose Mabel fenywod de Cymru yn y Women’s Coronation Procession yn Llundain. Mae dogfennau derbynodi’r faner yn cynnwys nodyn o eglurhad gan un o gyn-aelodau’r gangen:

The banner was worked by Mrs Henry Lewis… [she] was also President of the South Wales Federation of Women’s Suffrage Societies + she led the S. Wales section of the great Suffrage Procession in London on June 17th 1911, walking in front of her own beautiful banner… It was a great occasion, some 40,000 to 50,000 men + women taking part in the walk from Whitehall through Pall Mall, St James’s Street + Piccadilly to the Albert Hall. The dragon attracted much attention – “Here comes the Devil” was the greeting of one group of on lookers”.

Roedd baneri fel hyn yn rhan ganolog o ddiwylliant gweledol y mudiad pleidlais i fenywod, ac mae nifer ohonynt i'w canfod mewn amgueddfeydd ac archifdai, gan gynnwys Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd. Roedd trefnwyr gorymdaith fawr 1911 yn disgwyl dros 900 o faneri ar y dydd!

Dwy flynedd yn ddiweddarach, yng Ngorffennaf 1913, gwelwyd y faner ar strydoedd Caerdydd fel rhan o orymdaith yn y brifddinas i nodi’r Bererindod Fawr i Lundain (the Great Suffrage Pilgrimage). Mae casgliad yr Amgueddfa yn cynnwys lluniau anhygoel o Rose Mabel Lewis, ac aelodau eraill y gangen, wedi ymgynnull gyda’r faner tu allan i Neuadd y Ddinas ym Marc Cathays. Yn ôl adroddiad blynyddol 1913-14, roedd rhai o’r aelodau yn betrusgar ynglyn â’r orymdaith, ond wedi eu bywiogi ar ôl derbyn ymateb ffafriol ar y dydd:

It was with misgivings that some members agreed to take part in the procession, but afterwards their enthusiasm aroused and the desire to do something more in the future. The march was useful in drawing the attention of many people to the existance of our society.

Creu Hanes a’r canmlwyddiant

Yn 2018, bydd y faner i’w gweld yng Nghaerdydd unwaith eto – nid mewn rali y tro hwn, ond ymhlith llwyth o wrthrychau arwyddocaol yn ein hanes cenedlaethol fydd i’w canfod mewn oriel newydd yma yn yr Amgueddfa Werin – penllanw ein prosiect ail-ddatblygu, Creu Hanes. Cyd-ddigwyddiad amserol gan fod 2018 yn nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Hyd y gwn i, nid yw'r faner wedi bod ar arddangos ers iddi gael ei rhoi i'r casgliad yn 1950 gan y Cardiff Women Citizens' Association. Ar y pryd, ysgrifennodd drysorydd y gymdeithas honno lythyr at Dr Iorwerth Peate yn mynegi eu balchder fod y faner bellach ar gof a chadw yn Sain Ffagan:

A cordial vote of thanks was accorded to you for realising how much the Suffrage Cause meant to women and for granting a memorial of it in the shape of the banner to remain in the Museum.

Elen Phillips @StFagansTextile

Ffynonellau cynradd:

National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1911-12 (Amgueddfa Werin Cymru).

National Union of Women's Suffrage Societies: Cardiff & District Annual Report, 1913-14 (Amgueddfa Werin Cymru).

Dogfennau derbynodi 50.118 (Amgueddfa Werin Cymru).

Ffynonellau eilradd:

Kay Cook a Neil Evans, 'The Petty Antics of the Bell-Ringing Boisterous Band'? The Women's Suffrage Movement in Wales, 1890 - 1918' yn Angela V. John (gol.), Our Mothers' Land Chapters in Welsh Women's History 1830 - 1939 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).

Ryland Wallace, The Women's Suffrage Movement in Wales 1866 - 1928 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2009).