Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Popeth ond y sgrech 30 Awst 2012 Mae modd defnyddio pob pisyn o'r mochyn ond am ei sgrech Ar un adeg roedd moch yn rhan bwysig o fywyd pob dydd yn y dref yn ogystal â'r wlad. Dyma i chi'r peiriant ailgylchu perffaith, a oedd yn troi gwastraff yn gynnyrch defnyddiol. Byddent yn bwrw troglwyth fawr o foch bach a gan eu bod yn fodlon bwyta pob dim, yn laswellt neu'n sbarion bwyd, roeddent yn pesgi'n gyflym. Roedd lladd y mochyn yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys a byddai cymdogion a chyfeillion yn aml yn cymryd eu tro i ladd eu moch a rhannu'r cig. Hebrwng asgwrn Cig moch yn hongian o'r llofft. Dangosir y modd y gwahenir dau ddarn o gig rhag iddynt gyffwrdd. Byddai'r lladd yn digwydd rhwng dechrau Hydref a diwedd Mawrth, ac felly'n sicrhau cyflenwad cyson o gig ffres i deuluoedd trwy dymor y gaeaf. Y 'stecen felys' neu ddarnau o gig o'r asennau ac asgwrn y cefn fyddai'n cael eu rhannu fel arfer. Byddai ffagots a brôn hefyd yn cael eu paratoi a'u cynnig i deulu a chymdogion. Parhaodd yr arfer hwn tan hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Y plant fyddai'n cael y pleser o fynd â'r rhoddion, a chaent rywfain o arian am eu trafferth. Mewn rhai ardaloedd, yr enw ar yr arfer hwn oedd hebrwng asgwrn. Byddai gweddill y mochyn yn cael ei halltu, a dyna oedd y prif ffynhonnell o gig ar gyfer y teulu am y flwyddyn. Dim byd yn ofer Cyn yr oed o mas-gynhyrchu peliau troed, byddai plant yn aml yn defnyddio pledren mochyn i chwarae pêl, a ddengys yma gyda phlufyn a fewnosodwyd ar gyfer ei chwyddo. Fyddai'r un dim yn mynd yn ofer. Byddai'r pen yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn). Roedd modd defnyddio blew'r mochyn i wneud brwshys, gwneud lledr o'r croen, gwneud pwdin gwaed o'r gwaed, a chwarae pêl-droed gyda'r bledren. Doedd dim rhyfedd felly fod cymaint yn cadw moch. Yn ôl rhai, daw'r enw Saesneg ar gadw-mi-gei o'r ffaith bod pobl yn bwydo eu harian mân i mewn i'r piggy bank. Wedi iddo dyfu'n ddigon tew byddai modd ei falu a chael at y cynilion y tu mewn. Pen mochyn yn cael ei ferwi i wneud cosyn pen (brôn). Rhan o ffilm sy'n cofnodi'r holl waith a ddeuai yn sgîl lladd mochyn. Byddai trefn y gwaith yn dilyn yr un patrwm drwy Gymru gyfan, ac eithrio gwneud ffagots. Ni fyddai hynny'n digwydd yn gyffredin yng Ngwynedd. Ffrio'r iau gyda nionod a'i fwyta fel prif bryd oedd y drefn yno. Tystiolaeth lafar Yn ôl tystiolaeth o Rostryfan, yr oedd hwn yn bryd blasus iawn ar gyfer 'swper chwarel', sef y pryd min nos wedi i'r chwarelwyr ddychwelyd o'r chwarel. Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Môn yn disgrifio sut y byddai ei mam yn paratoi iau a nionod. Ganed Mrs Hughes yn 1904. "Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan, 'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, - a board 'te — wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi 'ny, mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badall o refi da wedi neud efo'r nionod 'ma i gyd, 'te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn odd o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos ylwch. " >Mrs Edith May Hughes, Llannerch-y-medd, Ynys Môn. Ganed 1904 Rysáit: Cig Moch, Iau a Nionod hanner pwys o gig moch pwys o iau nionod halen a phupur ychydig o flawd gwyn Torri'r iau'n dafelli, eu golchi, a'u gorchuddio ag ychydig o flawd gwyn, pupur a halen. Ffrio'r cig moch yn ysgafn a'i godi i ddysgl boeth. Rhoi'r iau a'r nionod (wedi'u torri'n fân) yn saim y cig moch, eu ffrio gyda'i gilydd a'u codi i'r un ddysgl. Cymysgu llond llwy fwrdd o flawd gwyn i mewn i'r saim yn y badell ffrio, tywallt ychydig o ddŵr berwedig arnynt, eu cymysgu'n dda a'u berwi am ychydig funudau i wneud grefi. Berwi tatws mewn sosban ar wahân.
Bwyd o lannau Cymru 23 Gorffennaf 2012 Cyflwyniad Hel cocos ar draeth Llan–saint. Y rhidyll, y gocses a'r rhaca — offer hel cocos. Byddai cymunedau oedd yn byw ger y glannau hefyd yn manteisio ar y bwydydd oedd ar gael iddynt ar y traeth neu'r creigiau glan-môr. Mae yna dystiolaeth helaeth o safleoedd cynhanesyddol a Rhufeinig sy'n dangos bod pysgod cregyn yn cael eu cynaeafu yng Nghymru trwy'r canrifoedd. Roedd y pysgod cregyn hyn yn rhad ac am ddim o'u casglu, ac roedd toreth ohonynt i'w cael ar hyd y glannau. Cocos a chregyn gleision oedd y mathau a gasglwyd ac a werthwyd amlaf gan y bobl gyffredin Casglu cocos Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, byddai merched casglu cocos yn aml yn cadw stondinau ym marchnadoedd trefi de Cymru. Byddai eraill yn gwerthu eu cynhaeaf o ddrws i ddrws yn y pentrefi diwydiannol ac arfordirol yn y gogledd a'r de. Fel arfer byddai'r cocos oedd wedi'u berwi a'u tynnu o'u cregyn (cocs rhython) yn cael eu cludo mewn bwced bren ar ben y werthwraig. Câi'r cocos oedd heb eu trin (cocs cregyn) eu cludo mewn basged fawr ar ei braich. . Soniai un wraig wyth deg oed o Lan-saint, pentref glan-môr yn Sir Gaerfyrddin, iddi fod yn casglu cocos ar y traeth am chwe deg o flynyddoedd. Cyfeiriai at y patrwm arferol lle'r oedd merched yn olynu eu mamau yn y gwaith hwn. Roeddent yn ddibynnol ar eu henillion o'r cocos; cofiai ei bod yn eu gwerthu am ddimai'r peint, ond ei bod tua diwedd ei gyrfa yn gwerthu'r un faint o gocos am chwe cheiniog. Roedd hwn yn dâl sâl iawn am yr holl waith llafurus. Casglu, golchi a chludo'r cocos adref o'r traeth oedd y cam cyntaf. Wedi cyrraedd byddai'n rhaid dechrau ar yr ail gam, sef golchi'r cocos eto a'u berwi cyn eu cludo am yr eilwaith, i'r farchnad y tro hwn. Gwnâi cocos bryd ysgafn o'u bwyta gyda bara menyn neu fara ceirch, ac roeddent yn elfen mewn gwahanol seigiau oedd yn cynnwys wyau neu laeth a sifys. Byddai merched ym mhentref Penrhyndeudraeth, Sir Feirionnydd, yn canu'r pennill hwn wrth werthu'r pysgod cregyn o ddrws i ddrws: Cocos a wya Bara ceirch tena Merched y Penrhyn Yn ysgwyd 'u tina Cafiâr Cymru? Siediau casglwyr bara lawr (1936) Un o'r bwydydd môr pwysig eraill oedd math o wymon bwytadwy o'r enw bara lawr. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai merched o lannau Sir Fôn, Sir Forgannwg a Sir Benfro yn casglu hwn yn frwd. Roedd angen trochi'r bara lawr a gasglwyd o'r creigiau a'r cerrig ar lan y môr mewn saith golchad o ddŵr glân er mwyn cael gwared ar yr holl raean a thywod oedd ynddo. Wedyn byddai'r gwragedd yn gwasgu'r dŵr o'r gwymon, a berwi'r bara lawr glân yn araf yn ei wlybaniaeth ei hun am ryw saith awr. Y peth olaf i'w wneud oedd ei ddraenio a'i falu'n hynod o fân nes ei fod yn fwydion lliw gwyrdd-ddu. Byddai'n cael ei ysgeintio wedyn â blawd ceirch a'i ffrio mewn saim cig moch, ac yn cael ei weini gyda bacwn fel arfer. Enwau eraill arno oedd llafan neu fenyn y môr, a byddai bara lawr yn cael ei baratoi fel cynnyrch masnachol gan deuluoedd yn Sir Forgannwg, a'i werthu gyda'r cocos ar y stondinau marchnad. Ar un adeg dim ond teuluoedd ar incwm isel fyddai'n paratoi ac yn gwerthu'r ddau fwyd hwn. Yn y pen draw datblygodd y ffordd hon o farchnata yn fentrau masnachol o bwys. Heddiw mae bara lawr, a elwir weithiau yn gafiâr Cymreig, i'w weld ar gownteri siopau bwyd arbenigol ac yn cael ei gynnig fel hors-d'œuvre mewn bwytai o'r radd flaenaf.
Gwerthu Losin Du: bwyd fel incwm 2 Mawrth 2010 Cyflwyniad Stondin cynnyrch y ffermdy ym marchnad Caerfyrddin yng ngofal Mrs E. Evans, Pencader. Hen fenyw fach Cydweli Yn gwerthu losin du... Mae'r hen rigwm cyfarwydd yn tynnu sylw at brysurdeb un wraig arbennig yn gwerthu nwyddau o'i chartre'. Dychmygol yw'r rhigwm, o bosibl, and y mae'n gofnod hanesyddol pwysig o'r math o weithgarwch a âi ymlaen ar hyd a lled Cymru yn y dyddiau gynt cyn sefydlu'r wladwriaeth les a'i nawdd cymdeithasol. Ddiwedd y 19eg ganrif ac ymlaen i'r 1920au a'r 1930au 'roedd gwerthu bwydydd, naill ai o'r cartre' neu ar y farchnad leol, yn arfer pur cyffredin yn y pentrefi a'r trefi diwydiannol yng Nghymru. Mewn cyfnod o gynni oherwydd salwch neu farwolaeth y penteulu neu golli cyflog oherwydd anghydfod diwydiannol, byddai'r gwragedd yn cynorthwyo i gynnal eu teuluoedd drwy baratoi a gwerthu bwydydd cartre'. Byddai'r bwydydd hynny yn eu tro, yn cael eu cyfrif yn ddanteithion gan aelodau o'r gymdeithas leol. Ffagots Ymhell cyn dyddiau'r siopau pysgod-a-sglodion ym mhentrefi glofaol de Cymru, byddai'r bobl leol yn cyrchu i dai arbennig i brynu 'ffagots a pys'. Er mwyn cael y ddau ben llinyn ynghyd, roedd hi'n arfer gan wragedd neu weddwon y glöwyr baratoi llond tun mawr o ffagots a sosbenaid fawr o bys i'w gwerthu o'u cartrefi ar nosweithiau penodol bob wythnos — nos Fawrth a nos Wener, fel rheol. Tyrai'r cwsmeriaid lleol yno gan gario'u bowlenni ar gyfer rhyw amser penodedig. Gwyddys bod yr arfer hwn wedi parhau mewn rhai ardaloedd tan bumdegau'r ugeinfed ganrif. 'Roedd gwerthu rhyw gant o ffagots am ddwy geiniog yr un bob nos Wener yn galluogi'r gwragedd i brynu, ymhlith pethau eraill, darn a gig ffres i'w rostio ar gyfer y Sul. Pennog picl Pennog picl oedd un o'r bwydydd cyffelyb a nodweddai'r ardaloedd diwydiannol yng ngogledd Cymru. 'Roedd pysgota penwaig, yn ôl y tymor, yn ddiwydiant pwysig yn y trefi a'r pentrefi ar yr arfordir, ond lledai'r arfer o baratoi a gwerthu pennog picl i ardaloedd y chwareli llechi. Cofnodwyd yr hanes am wragedd yn croesawu cwsmeriaid i'w cartrefi ar ryw un noswaith yr wythnos. Byddai'r gweision ffermydd a'r chwarelwyr yn ymgynnull yno i gael sgwrs a chwmnïaeth ddifyr tra'n bwyta'r pennog picl a'r bara ceirch cartre'; cawsent bryd da o fwyd am tua chwe cheiniog yr un. Ai'r gwragedd ati i goginio nifer fawr o bennog mewn dysglau pridd yn y popty a'u blasu nionod, finegr a sbeisys. Fyddai'r gweithwyr yn cael pryd o fwyd sylweddol am ychydig geiniogau ond 'roeddent yn geiniogau gwerthfawr i'r teuluoedd anghenus na allent droi at unrhyw wladwriaeth les am gymorth ariannol. Bara ceirch, pwdin bara a diod fain Mrs. Cathrin Evans yn rhoi'r torthau ar ei gilydd i galedu. Bwydydd eraill a baratoid ar gyfer eu gwerthu yn y de diwydiannol oedd pice cwrens a phwdin bara, tra 'roedd galw mawr am fara ceirch yn siroedd y gogledd. Danteithion oedd yn gyffredin i siroedd y gogledd a'r de fel ei gilydd oedd taffi (neu losin dant) a chyflaith (neu india roc). Yn y lle cyntaf fe'u paratoid ar raddfa fach gan y gwragedd i'w gwerthu o'u cartrefi neu ar y farchnad leol. Gwyddys am deuluoedd a ddatblygodd y fasnach i'r graddau iddynt fedru sefydlu cwmnïau masnachol pur lwyddiannus. Yn yr un modd y datblygwyd y fasnach ddiodydd meddal. 'Roedd y ddiod fain neu'r ddiod ddail (small beer, herb beer) yn dderbyniol iawn gan y chwarelwr a'r glöwr i dorri syched ar ôl diwrnod caled o waith. Y gwragedd a welodd eu cyfle i fasnachu'r ddiod y gwyddent fod galw mawr amdano. Aent allan i'r priffyrdd a'r caeau i gasglu dali danadl poethion a dail dant y llew, yn eu tymor, a'u golchi a'u sychu'n ofalus. Fe'u berwid ynghyd â dail cyrens duon, iorwg a sunsur; yna hidlid y trwyth hwnnw a'i felysu â siwgr. Ar ôl iddo glaearu rhoid burum ynddo a'i adael i eplesu dros nos. Drannoeth, hidlid y ddiod drachefn a'i arllwys i botel. Gwyddys am un wraig a werthai, ar gyfartaledd, ryw ddeugain potelaid o ddiod fain bob wythnos o'i chartre yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Gwnai elw o saith swllt yr wythnos, swm a oedd yn rhan hanfodol o incwm prin y teulu.