Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Diwrnod Santes Dwynwen – Nawddsant Cariad Cymru 14 Mehefin 2014 Pryd mae Diwrnod Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu?Mae Diwrnod Santes Dwynwen yn cael ei ddathlu yng Nghymru ar 25 Ionawr.Pwy oedd Santes Dwynwen?Roedd Dwynwen yn byw yn ystod y 5ed ganrif ac roedd, yn ôl y son, yn un o brydferthaf o ferched Brychan Brycheiniog.Pwy oedd Maelon DafodrillYn ôl yr hanes, cwympodd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill, ond yn anffodus, roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Yn ei gynddaredd, treisiodd Maelon Dwynwen a'i gadael.Ffodd Dwynwen i'r goedwig, lle gweddïodd ar i Dduw ei rhyddhau o'i theimladau am Maelon. Wedi cwympo i gysgu, ymddangosodd angel yn cario dogn melys wedi'i baratoi er mwyn dileu yr holl atgof o Maelon ac i'w droi yn ddarn o ia.Yna rhoes Duw dri dymuniad i Dwynwen. Yn gyntaf, gofynnodd am ddadmer Maelon; yn ail, y byddai Duw yn ateb gobeithion a breuddwydion gwir gariadon; ac yn drydydd, na fyddai hi byth yn priodi. Cafodd y tri eu gwireddu, ac fel arwydd o'i diolch, ymroes Dwynwen i wasanaethu Duw am weddill ei bywyd.Ynys Llanddwyn ac Eglwys Santes DwynwenErys olion o eglwys Dwynwen hyd heddiw ar ynys Llanddwyn, ger arfordir Ynys Môn. Yn ystod y 14eg ganrif, tra'n ymweld â'r ynys, gwelodd y bardd Dafydd ap Gwilym ddelw aur o Dwynwen y tu mewn i'r eglwys. Bu mor ewn â gofyn i Dwynwen fod yn llatai rhyngddo a Morfudd, y ferch y dymunai ei hennill, a hyn er fod Morfudd eisoes yn briod!Gwelir ffynnon Dwynwen ar yr ynys hefyd, lle nofia, yn ôl y sôn, bysgodyn cysegredig, a'i symudiadau yn darogan dyfodol cariadon. Os berwa'r dwr yng ngwydd ymwelwyr, bydd lwc a chariad yn sicr o ddilyn.Gwelwyd twf sylweddol ym mhoblogrwydd dathlu Diwrnod Santes Dwynwen yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Cynhelir digwyddiadau arbennig, megis cyngherddau a phartion ac argreffir cardiau Cymraeg. Er nad ydyw mor boblogaidd â Diwrnod San Ffolant ym mis Chwefror, mae'r nifer o Gymry cyfoes sy'n dewis dathlu gwyl Santes Dwynwen yn prysur gynyddu.Rhoddion Rhamant: O Lwyau Caru i Prennau StaesTrwy gydol hanes a hyd heddiw, rhoddir rhoddion rhamant fel symbolau o gariad ac ymrwymiad i anwyliaid.LLWYAU CARUCredir bod llwyau caru wedi'u crefftio gan ddynion a'u cyflwyno i'r morynion yr oeddent yn eu hedmygu. gwnaethant fynegi eu nwydau a'u teimladau trwy'r symbolau a gerfiwyd. PRENNAU STAESWedi'i addurno â motiffau a lythrennau, defnyddwyd Pren Staes i gadw torso menywod yn syth ac i eistedd yn agos at y galon. Yn y llun mae Pren Staes o Lanwrtyd, gyda'r llythrennau RM ac IM. TATŴS JESSIE KNIGHTRhwng y 1920au a'r 1960au, tatŵodd Jessie Knight y dyluniadau hyn ar forwyr a milwyr. Gan symboleiddio eu hymroddiad, roedd y rhoddion rhamant barhaol hyn yn ffordd i forwyr gadw eu hanwyliaid yn agos ar y môr. GWENIAU GWEILLRoedd yn arferiad Cymreig i gerfio gweiniau gweill gydag enwau a motiffau a'u rhoi fel rhoddion rhamant. Wedi'u gwisgo ar ochr dde'r corff, fe wnaethant ddal gwaelod un o'r gweill, gan ryddhau'r llaw chwith i weithio'r edafedd. TOCYNNAU CARIADWedi'u gwneud gan forwyr neu euogfarnau yn y 18fed-19eg ganrif, roedd y tocynnau cariad hyn wedi'u hysgythru â symbolau o gariad, gwahanu a dychwelyd. Wedi'i gynnig fel anrhegion ar gyfer gwahaniadau hir neu amhenodol. Mae’r rhoddion rhamant barhaol hyn, pob un â’i stori unigryw ei hun, yn parhau i symboleiddio cariad a chysylltiad trwy hanes a thraddodiad Cymru.
Ci Da yn Gwella Penny Hill, 5 Mawrth 2014 Cerflun bach manwl o gi heb fod dros 5cm o daldra fyddai wedi’i orchuddio â haen o dun neu arian mwy na thebyg. Mae tyllau yn y gwaelod metel yn awgrymu ei fod yn esitedd ar blinth. Un o ddau gerflun bach o gŵn a ganfuwyd yn Llys Awel. Mae ei dafod allan yn barod i lyfu. Mae’r ci wedi bod yn gyfaill mynwesol i ddyn ers cyn cof. Gwelwyd straeon eto’n ddiweddar am gŵn yn achub bywydau drwy ffroeni cancr, neu wella cylchrediad gwaed drwy lyfu coesau a breichiau. Ond nid darganfyddiad newydd yw’r cysylltiad rhwng pobl, cŵn ac iechyd. Yn y casgliad archaeoleg, ymhlith grŵp o wrthrychau a ganfuwyd yn llys Awel, Conwy mae dau ffigwr bychan o gŵn. Mae dau blac aloi copr yno hefyd. Addurn pwnsh dot o amlinell ci sydd ar y cyntaf, ond mae’r ail wedi dirywio a gallai fod yn gi arall, neu’n enw duw. Y gred yw taw allor wedi’i gysegru i dduw iachaol oedd y safle, ac mae’r gwrthrychau eu hunain wedi’u dyddio i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain, rhwng diwedd y ganrif 1af AD a diwedd y 4edd ganrif AD. Mwy na thebyg i bobl adael y gwrthrychau yn offrwm i’r duw yn y gobaith y byddai’n sicrhau iechyd da ac yn eu gwella rhag afiechyd. Pam cŵn? Cai’r duw meddyginiaeth Groegaidd Asklepios (Aesculapius oedd enw’r Rhufeiniaid arno) ei ddangos yn aml yng nghwmni ci. Mwy na thebyg bod pobl wedi gweld cŵn yn iachau eu hunain drwy lyfu a’r cysylltiad wedyn wedi tyfu. Adeiladwyd noddfa fawr i’r cwlt yn y 4edd ganrif CC yn Epidaurus, Groeg. Tyfodd hon yn un o ganolfannau iachau mwyaf yr hen fyd. Un elfen o’r ddefod iachau oedd derbyn llyfiad gan gi dwyfol y noddfa. Yr unig esiampl gyffelyb y gwyddir amdani ym Mhrydain yw cwlt Nodens, y duw Romano-Brydeinig oedd â’i noddfa yn Lydne, Swydd Gaerloyw. Canfuwyd 9 portread o gŵn yno, ac fel yn Llys Awel mwy na thebyg taw pererinion yn chwilio am wellhad rhag afiechyd a’u gadawodd. Yn 5cm o daldra ac wedi’u gwneud o aloi copr, eistedda’r ddau gi â’u cynffonau rhwng eu coesau a’u tafodau allan yn barod i lyfu. Mae’r manyldeb arnynt yn hynod, gyda’r llygaid a’r clustiau, y trwynau, y pawennau a’r ffwr i gyd yn amlwg. Mwy na thebyg iddynt gael eu creu drwy ddefnyddio’r dull colli cwyr, felly dim ond un cyfle oedd i gastio’r metel. Castiwyd un ci mewn un darn ond mae’r llall yn fwy cymhleth. Wrth wneud gwaith cadwraeth, dysgwyd sut y cynhyrchwyd y cerflun. Castiwyd darnau ar wahân cyn eu sodro at eu gilydd. Darlun o blac offrwm gydag arlliwio ychwanegol yn amlygu amlinell ci. Darlun o blac offrwm. Yw’r llinellau toredig yn yr hanner gwaelod yn sillafu enw duw sydd bellach yn angof, neu ai ci arall sydd yma? Cadwraeth Yn ystod gwaith cadwraeth, gwelwyd bod pedwar cast – pen, corff, cynffon a thafod – wedi’u sodro at eu gilydd i greu cyfanwaith. Awgrym pellach o hyn yw’r rhigolau yn y metel ger uniad y pen a’r corff, fyddai’n gymorth i’r sodrwr ddal y ddwy ran wrth weithio. Ceir tystiolaeth hefyd bod castio’r ffigwr wedi achosi cryn drafferth i’r crefftwr, a’r aloi copr ddim yn llifo ac yn llenwi’r mowld bychan. Bu’n rhaid trwsio’r trwyn a’r goes flaen dde gan dorri’r deunydd oedd heb gastio’n gywir a sodro rhannau newydd yn eu lle. Mae’r trwyn newydd wedi diflannu ond mae’r goes newydd gyda ni o hyd, a gellir gweld nad yw’r gwaith mor gywrain â’r goes chwith. Mwy na thebyg i’r cerflun gael ei orchuddio mewn tun neu arian i guddio’r camgymeriadau a gwella’r golwg terfynol er mwyn dyrchafu pedigri’r ci bach. Ni chafwyd canlyniadau pendant o ddadansoddi’r arwyneb fodd bynnag ac nid yw’r gorchudd, os oedd un yn bodoli erioed, wedi goroesi. Bydd yn rhaid i ni ddychmygu sut olwg oedd ar y ci ar ei newydd wedd, ac a wnaeth yr offrwm ennyn trugaredd y duwiau?
Breuddwydion Chwyldroadol: Celf Ffrengig gyda Phrifysgol Bryste 22 Mawrth 2012 Cerbyd Trydydd-dosbarth Honore Daumier (1808 - 1879) Gweithwyr ar y Stryd, 1838-40 Honore Daumier (1808 - 1879) Y Chwa o Wynt Jean-François Millet (1814 - 1875) Yr Enciliad Louis Eugène Benassit (1833 - 1904) Mae gan Amgueddfa Cymru un o'r casgliadau mwyaf eithriadol o gelf Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y DU. Yma gwelwn golwg or newydd ar gasgliad yr Amgueddfa o baentiadau'r cyfnod cyn yr Argraffiadwyr Ffrengig, gyda gwaith ymchwil a dehongli gan Brifysgol Bryste.Canrif y ChwyldroPenderfynodd arlunwyr gofnodi hanes cymdeithasol a gwleidyddol cythryblus Ffrainc ar gynfas, yn enwedig y newidiadau mewn bywyd bob dydd ac yn nisgwyliadau pobl. Esgorodd Chwyldro 1789, pan sefydlwyd y Weriniaeth Ffrengig Gyntaf, ar ganrif o wrthdaro ac ansicrwydd i'r boblogaeth. Er bod ambell artist yn ceisio portreadu digwyddiadau'r dydd, roedd eraill yn ceisio ail-gyfl eu'r hen draddodiadau coll.Chwyldro a RealaiddAcademi Celfyddyd Gain y wladwriaeth a'i harddangosfa swyddogol, y Salon, oedd yn llywio cyfeiriad celf Ffrengig o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, dechreuodd llawer o arlunwyr herio'r Academi a'r Salon. Mae llawer o'r paentiadau yn dangos eu bod yn torri'r traddodiad ac yn dechrau mabwysiadu arddull fodern newydd. Dechreuodd mwy a mwy o arlunwyr gefnu ar y ffi gyrau Beiblaidd a'r arwyr Rhufeinig a oedd yn rhemp ar waliau'r Salon.Yn Cerbyd Trydydd-dosbarth, mae Honoré Daumier yn cyfeirio at ddyfais allweddol y ganrif, sef trên stêm. Ar y llaw arall, mae Y Teulu Gwerinol gan Jean-François Millet yn cyfl wyno portread o ffermwyr a delfryd o gefn gwlad Ffrainc. Er eu bod nhw'n baentiadau tra gwahanol, mae thema gyffredin iddynt, sef portreadu bywyd cyfoes a dirodres bob dydd.Dyma pryd y dechreuodd artistiaid Ffrengig beintio fel hyn; dull y cyfeirir ato'n aml fel peintio 'Realaidd'. Y newidiadau yng nghynnwys lluniau fraenarodd y tir ar gyfer yr hyn a ystyriwn yn Gelf Fodern heddiw.Ansicrwydd GwleidyddolAr ôl i'r Brenin Siarl X gael ei ddiorseddu gan Chwyldro Gorffennaf 1830, daeth Louis-Phillippe yn frenin tan iddo yntau gael ei ddisodli gan Chwyldro mis Chwefror 1848. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Ail Weriniaeth gan roi'r hawl i ddynion bleidleisio ac addewid o ddemocratiaeth. Er hynny, mae'r modd y ffrwynwyd gwrthryfel y gweithwyr yn chwyrn ym mis Mehefi n y fl wyddyn honno, les journées de Juin, yn dangos fod yr hen rwystredigaeth yno o hyd. Mae Gweithwyr ar y Stryd Daumier yn cyfl eu'r tensiynau hyn ac fel petai'n rhagweld y digwyddiadau hyn. Roedd ei luniau'n beirniadu'r gwahaniaethau parhaus rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol.Mae llun diweddarach Millet, Yr Heuwr, yn pwysleisio'r bywyd gwerinol a llafurio ar y tir. Roedd amaethyddiaeth yn rhan ganolog o'r hunaniaeth genedlaethol Ffrengig, ac roedd Millet yn tristau'n fawr o weld cymaint yn symud o gefn gwlad i'r dinasoedd.Ym 1870, dechreuodd Ffrainc ryfela yn erbyn Prwsia gyda goblygiadau trychinebus. Ffodd llawer o arlunwyr i ddiogelwch cefn gwlad yn ystod y rhyfel, gan gynnwys Millet a adawodd Barbizon i chwilio am loches ar arfordir Normandi. Ar ôl dychwelyd, aeth ati i beintio Y Chwa o Wynt; portread o nerth a grym dychrynllyd y storm sy'n cyfl eu newid a dinistr rhyfel. Mae Yr Enciliad gan Louis Eugene Benassit yn dangos ymateb mwy uniongyrchol. Y Teulu Gwerinol (1871-2) Jean-François Millet (1814 - 1875) Olew ar gynfas Casgliad y Chwiorydd Davies Yr Heuwr, 1847-8 MILLET, Jean-François (1814 - 1875) Cinio yn y Wlad, 1868 Honore Daumier (1808 - 1879) Y Traeth yn Trouville, 1890 Louis Eugéne Boudin (1824 - 1898) Y Baich Trwm Honore Daumier (1808 - 1879) HamddenYn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth y dosbarth canol neu'r bourgeoisie yn gyfoethocach diolch i'r newidiadau yn strwythur y dosbarthiadau cymdeithasol yn Ffrainc.Dechreuasant awchu am nwyddau moeth amrywiol, o'r rhad i'r technolegol. Yn fwy na dim, roeddynt yn hoffi paentiadau a oedd yn eu dangos yn hamddena ac yn pwysleisio'u statws newydd mewn cymdeithas. Dechreuodd arlunwyr ymateb trwy wneud paentiadau a oedd at ddant y gynulleidfa gynyddol newydd hon.Dyfeisiwyd y trên stêm ym 1804, ac o fewn hanner can mlynedd, roedd rheilffyrdd yn cael eu gosod ar hyd a lled Ffrainc. Mae Cinio yn y Wlad gan Daumier ac Y Traeth yn Trouville gan Boudin yn portreadu'r ymwelwyr dosbarth canol.Yn ogystal ag adlewyrchu'r datblygiadau chwyldroadol ym myd trafnidiaeth a thwristiaeth, dechreuodd arlunwyr frwsio'n rhydd gyda lliwiau llachar i gyfl eu awyrgylch o fwyniant a phleser pur. Cafodd y defnydd chwyldroadol hwn o olau a brwsio rhydd ddylanwad aruthrol ar arddull newydd maes o law — Argraffi adaeth.Mewnod a'r AelwydMae golygfeydd o fenywod yn rhan amlwg iawn o'n casgliad o baentiadau Ffrengig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er hynny, mae'n ddiddorol nodi mai artistiaid gwrywaidd beintiodd yr holl luniau hyn, felly rydym yn edrych arnynt o safbwynt dynion y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, gallwn ddechrau deall rôl y fenyw mewn cymdeithas.Mae Y Baich Trwm gan Daumier yn dangos gweithgareddau'r ferch dosbarth gweithiol, tra bod paentiadau eraill yn portreadu merched hardd a ffasiynol o ddosbarth uwch. Dengys hyn bod rhaniadau rhwng y rhywiau a dosbarth cymdeithasol yn dal mewn grym ar ôl y Chwyldro.Boed yn brysur wrth eu gwaith neu ar eu heistedd yn oddefol, gellir dehongli'r lluniau hyn fel drych o'u sefyllfa mewn cymdeithas.Research and RevealHere we present four essays, giving a fresh look at the Museum's collection of pre-Impressionist French paintings, researched and interpreted by postgraduate students from the University of Bristol:Personalities in Paintings, by Matthew Howles Landscape Fakes, by Jessica Hoare The Landscapes of Millet, by Jessica Hoare The Paintings of Charles Bargue, by Rhian Addison CysylltiadauBrifysgol BrysteGymdeithas yr Haneswyr Celf
Diptych Llandaf Mark Redknap, 25 Mehefin 2011 Caiff panel diptych Llandaf ei arddangos gyda chopi o'i bartner wedi'i gerfio mewn resin Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf i greu replica manwl o ddarn Lerpwl. Yn un eto: dwy ddalen diptych Llandaf. Delweddau ar ddau neu dri panel yw diptych a triptych, ac roedden nhw'n amlwg yn y canol oesoedd fel cymorth i addoli a myfyrio ar fywyd a dioddefaint Crist. Yn ddiweddar, mae panel diptych ifori ochr dde o Landaf sydd yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru wedi cael ei uno â'i bartner am y tro cyntaf mewn canrif a mwy. Gwyddom am waith ifori canoloesol o leoliadau seciwlar yng Nghymru, fel darnau hela o gestyll a tharian fechan o Gaerllion (Sir Fynwy). Cafodd gwaith ifori ffigurol o bwys defosiynol ei ganfod wrth gloddio yng Nghastell Dolforwyn (Sir Drefaldwyn), a caed adroddiadau am ddiptych ifori cerfiedig o Abaty Glyn y Groes (Sir Ddinbych) ym 1866. Yng Nghymru, fel ag yn Lloegr, cafodd llawer o wrthrychau defosiwn personol eu dinistrio yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg; mae sawl diptych anghyflawn i'w gweld mewn amgueddfeydd wedi i baneli gael eu colli dros y canrifoedd. Weithiau, caiff paneli eu hailddarganfod a'r darnau eu huno unwaith eto. Diptych Llandaf Ers dros 100 mlynedd, mae panel de diptych ifori eliffant o Landaf wedi cael ei ystyried yn esiampl brin sydd wedi goroesi yng Nghymru. Fe'i gwnaed ym Mharis oddeutu OC 1340-60, ac mae'n dangos Crist ar y groes gyda'r Forwyn Fair ar y chwith, a Ioan Efengylydd fel gŵr ifanc ar y dde yn dal llyfr ac yn troi oddi wrth y groes. Mae'r ffigurau wedi'u gosod o dan ganopi pensaernïol o dri bwa Gothig trefoil, pob un â thâl maen trionglog uwch ei ben gyda chrocedi a therfyniadau. Yn ôl cofnodion yr Amgueddfa, cafodd ei ddarganfod gan Mr Henry Bird o Gaerdydd wrth ddymchwel yr 'hen ffynhondy' yn Llandaf ym Mai 1836. Wedi pasio drwy law sawl perchennog, cafodd ei brynu ym 1901 gan Amgueddfa Caerdydd (rhagflaenydd Amgueddfa Cymru) o ystad John Storrie (curadur 1878-93). Dangosodd ymchwil bod manylion addurniadol, dimensiynau, cyflwr a lleoliad colfachau'r darn yn debyg iawn i banel ifori chwith sydd bellach yng nghasgliadau Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl. Mae'r panel chwith hwn yn dangos y Forwyn a'r Plentyn (yn dal allweddi) a Paul (yn dal cleddyf), sy'n wrthbwynt gweledol taclus i olygfa'r Croeshoeliad ar y panel de. Pryd gafodd y ddau eu gwahanu? Cafodd panel Lerpwl ei gaffael ym 1953 o ystad Mr Philip Nelson, a'i prynodd o ddeliwr yng Nghaerfaddon ym 1934. Prynwyd y panel de gan John Storrie o siop Mr L. Roberts. A gafodd y ddau eu canfod yn Llandaf ym 1836 a dod i law perchnogion gwahanol, neu oeddent wedi cael eu gwahanu cyn hyn? Prif atyniad Llandaf o hyd yw'r eglwys gadeiriol a'r ffynhonnau niferus. Yr esiamplau mwyaf adnabyddus yw Ffynnon Deilo, a Ffynnon y Llaethdy ar dir Llys Llandaf, tŷ a ddefnyddiwyd fel Palas yr Esgob o 1869 i 1940. Bu'r diwethaf yn guddfan i drawst a phen croes o ddiwedd y ddegfed ganrif neu'r unfed ganrif ar ddeg, a osodwyd yn y wal bellaf ym 1870. Saif adeilad caerog Palas yr Esgob o'r drydedd ganrif ar ddeg i'r de ddwyrain o'r eglwys gadeiriol: ai dyma leoliad gwreiddiol y diptych? Heddiw, caiff panel diptych Llandaf ei arddangos gyda chopi o'i bartner wedi'i gerfio mewn resin, a gomisiynwyd o Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl (Technolegau Cadwraeth). Defnyddiwyd y dechnoleg ddiweddaraf i greu replica manwl o ddarn Lerpwl. Un o fanteision mawr y dechneg hon yw nad yw arwyneb yr arteffact gwreiddiol yn cael ei gyffwrdd o gwbl, sy'n golygu nad oes unrhyw risg i'r gwrthrych.