Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan 11 Ebrill 2007 Ym 1992 cludwyd swyddfa bost leiaf Cymru o Flaenwaun i'r Amgueddfa. Diolch i garedigrwydd cyllidwyr y project, Post Office Counters Ltd, datgymalwyd yr adeilad bach brics, ac fe'i symudwyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, lle cafodd ei ail-adeiladu gan dîm arbenigol yr Amgueddfa. Mae swyddfeydd post y pentref wedi chwarae ran bwysig ym mywyd cymunedol Cymru dros y 90 mlynedd ddiwethaf. Erbyn y 1950au roedd gan bron bob pentref ei changen ei hun, a oedd yn fan i ddosbarthu'r post, casglu parseli ac i bobl ymgynnull i glywed y newyddion lleol. Byddai ymweliadau rheolaidd y postmon cefn gwlad ar ei feic, ac yn ddiweddarach mewn Morris Minor coch neu fan Fordson, yn helpu trigolion y cymunedau gwledig i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd. Swyddfa Bost lleiaf Cymru, ym Mlaenwaun, Sir Gaerfyrddin Swyddfa Bost Blaenwaun yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Swyddfa Bost y Wlad Wrth gwrs, pur anaml byddai adeiladau swyddfeydd post cefn gwlad mor drawiadol â'r rhai trefol. Fel rheol lleolwyd hwy yng nghornel siop y pentref neu mewn ystafell flaen tŷ. Weithiau gwerthai'r swyddfeydd post hyn amrywiaeth o eitemau, ond dibynnai rai'n llwyr ar werthu stampiau, archebion post, trwyddedi a thystysgrifau cynilion, a oedd yn unig ffynhonnell incwm iddynt. Roedd Swyddfa Bost Blaenwaun, a leolir tuag wyth milltir i'r gogledd o Hendy-gwyn, Dyfed, yn fusnes o'r fath. Fe'i adeiladwyd ym 1936 gan y saer maen Evan Isaac, a'i saer o gefnder, David Williams. Rhedwyd y Swyddfa Bost, yn ogystal â thafarn y Lamb ar draws y ffordd, gan Mrs Hannah Beatrice Griffiths (Isaac gynt), merch Evan Isaac, a'i gŵr. Bob dydd cludwyd y post o Hendy-gwyn cyn cael ei ddidoli ar fainc isel yn ystafell gefn y Swyddfa Bost. Dosbarthwyd y post i'r gymuned leol gan Mrs Griffiths, a fyddai'n ymgymryd â'r siwrne wyth milltir ar gefn beic cyn croesi'r ffordd i weithio yn y dafarn. Medrai unrhyw gwsmeriaid a gyrhaeddai i'r Swyddfa Bost tra bod Mr a Mrs Griffiths yn gweithio yn y dafarn wasgu botwm a fyddai'n canu cloch y tu ôl i'r bar. Roedd gan y Swyddfa Bost, a fesurai cwta 5 metr o hyd a 2.9 metr o led, ddwy ystafell: ystafell wasanaethu allanol yn cynnwys cownter, a swyddfa fewnol neu ystafell ddidoli yn cynnwys lle tân bach a mainc o dan y ffenest. Gwahanwyd yr ystafelloedd gan bared pren. Peintiwyd y waliau mewnol yn frown i uchder o tua un metr uwch y llawr, a lliw hufen at y to, a llinell drwchus ddu rhwng y ddau. Y tu allan, uwch ffenest yr ystafell wasanaethu, gosodwyd arwydd a wnaed o ddalen tun trwchus wedi'i pheintio ag arni'r geiriau: BLAENWAUN POST OFFICE. Gosodwyd blwch post bach ar y wal rhwng y ffenest a'r fynedfa. Yn y dyddiau cynnar, roedd ffôn ar y cownter at ddefnydd y Swyddfa Bost ac, efallai, at ddefnydd y pentrefwyr yn ogystal. Yn ddiweddarach, gosodwyd ciosg cyhoeddus y tu allan i'r adeilad bach. Roedd yna hefyd Dderbynnydd o'r Adran Ryfel yn y swyddfa er mwyn derbyn negeseuon brys ar adegau o argyfwng. Yn dilyn marwolaeth Mr Griffiths yn y 1960au cynnar, symudwyd y busnes i fyngalo newydd a adeiladwyd gan ei ferch, Mrs Evanna James. Bu'r hen Swyddfa Bost yn wag o'r amser hwnnw tan y cynigiwyd hi i'r Amgueddfa ym 1991. Mae modd ymweld â hi yn adran 'pentref' amgueddfa awyr agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ger y popty a siop y teiliwr. Adferwyd hi i'r golwg oedd arni yng nghyfnod y rhyfel, ac mae'n cynrychioli cyfnod yn hanes Cymru na ddangosir gan unrhyw un o adeiladau eraill yr Amgueddfa.