Yr Het Gymreig - Ddoe A Heddiw Niamh Rodda, 27 Gorffennaf 2023 Hetiau bach o’r 1860au gan yr hetiwr o Gymru, John Evans. Mae’r Het Gymreig yng nghanol y llun. Mae hetiau’n aml yn wleidyddol. Hawdd fyddai cymryd yn ganiataol mai gwarchod pen rhag y tywydd yw eu hunig bwrpas, ond o feddwl ychydig am y peth, fe welwch eu bod yn llawer mwy na hynny. O gap pig coch ‘Make America Great Again’, i gapiau cochion y Chwyldro Ffrengig, i unrhyw hetiau milwrol - mae hetiau’n cael eu defnyddio’n aml i nodi ar ba ochr ydych chi. Mae hetiau, fel sy’n wir am bob ffasiwn, yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth enfawr o ffyrdd i gyfathrebu ag eraill, a gallan nhw ddynodi ystod o wybodaeth wrthon ni: cenedligrwydd, rhywedd, diddordebau a hunaniaeth. Mae’r het yn aml yn gysylltiedig â hunaniaeth grŵp; mewn torf o bobl gall yr het fod yn ddynodwr allweddol ac os caiff ei gwisgo gan grŵp mawr o bobl gall greu delwedd drawiadol. Mae’r Het Gymreig, a oedd yn cael ei gwisgo’n draddodiadol gan ferched, yn gwneud yn union hynny, ac mae ei chorun du tal a’i chantel caled yn creu edrychiad unigryw a thrawiadol sydd wedi cael ei ddefnyddio fel symbol o Gymreictod ers amser maith. Cyn yr Het GymreigMae yna gred gyffredin mai dyfais Fictoraidd oedd yr het Gymreig a’r wisg genedlaethol – rhan o dreftadaeth Gymreig ddychmygol – ond mae digon o dystiolaeth yn mynd yn ôl ganrif ynghynt sy’n dweud fel arall wrthon ni. Mae’n bosib bod y Fictoriaid wedi curadu fersiwn benodol o’r wisg Gymreig ac wedi cadarnhau’r syniad ohoni fel ‘Gwisg Genedlaethol Gymreig’ ond roedd y dillad eu hunain, gan gynnwys yr het, wedi bod yn cael eu gwisgo ers yn llawer hirach.Cyn i’r Het Gymreig fod yn Gymreig, dim ond het oedd hi. Roedd hetiau â chorun uchel wedi’u gwneud o ffelt neu ffwr befar yn boblogaidd mewn llawer o wledydd ar un adeg. Roedd dynion a merched ledled Prydain yn ystod ail hanner y cyfnod Elisabethaidd yn gwisgo hetiau o’r fath i deithio ac i farchogaeth, ac yna mabwysiadwyd fersiwn â chantel lletach, sef ‘steil cafalîr’, gan y dosbarth canol yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg. Ar yr adeg yma roedd hetiau’n symbol pwysig o statws. Ffwr befar oedd y defnydd o safon a fyddai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hetiau ffelt, ond roedd ffeltio’r ffwr yn anodd ac yn gostus ac o 1670 ymlaen, roedd y cynnyrch yn aml yn cael ei fewnforio o America. Mae Samuel Pepys yn nodi yn ei ddyddiadur ym 1661 fod het befar wedi costio 45 swllt iddo. O tua 1640 i 1660 daeth fersiwn o’r het befar gyda chorun tal, sef yr het bigfain, yn boblogaidd, a oedd yn edrych yn debyg iawn i’r hyn y bydden ni’n ei ystyried yn het Gymreig heddiw. Heddiw mae hetiau o’r steil yma’n cael eu cysylltu’n gryf â’r Piwritaniaid a’r pererinion i America, oherwydd eu dyluniad syml, di-addurn. Felly hyd yn oed 400 mlynedd yn ôl, roedd yr het yn llawn ystyr, o gyfoeth a dosbarth i dueddiadau gwleidyddol a chrefyddol. Ni a NhwTra bod yr het bigfain ddu, ynghyd â nodweddion eraill rydyn ni’n eu cysylltu heddiw â’r wisg genedlaethol, yn gyffredin ledled Ewrop ac America yn yr ail ganrif ar bymtheg, yn y ddeunawfed ganrif y gwelwn wahaniaeth mewn steil. Tra bod tueddiadau ffasiwn mewn mannau eraill yn newid, roedd y werin yng Nghymru yn dewis cadw’r ymddangosiad hŷn yma. Wrth i ffasiwn newid yn gyflym yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, roedd y ffaith bod y dosbarthiadau is yng Nghymru yn ymwrthod â’r steiliau newydd (boed hynny’n fwriadol neu oherwydd diffyg arian) yn golygu bod gwahaniaeth nodedig yng ngwisg y dosbarthiadau is yng Nghymru o gymharu â’u cyfoedion yn Lloegr. Mae hyn yn cael ei ddogfennu mewn nifer o adroddiadau gan deithwyr o Loegr a wnaeth sylwadau ar y gwahaniaeth mewn dillad rhwng y Saeson a’r Cymry, ac ymhlith y rhain mae disgrifiadau o het ddu uchel a oedd yn cael ei gwisgo gan ferched. Paentiad gan Julius Caesar Ibbetson, Gwisgoedd Castellnewydd Emlyn, 1792 Arlunydd o Loegr oedd Julius Caesar Ibbetson a greodd nifer o weithiau yn cyfleu golygfeydd o fywyd Cymreig ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Drwy’r gweithiau hyn, gellir gweld delwedd amlwg o ferched dosbarth gweithiol Cymru. Mae’r paentiadau’n cyfleu gwisg sy’n wahanol i’r hyn a oedd yn wisg ffasiynol ledled Ewrop yn ystod y 1790au, ac mae bron pob un o’r gweithiau’n cynnwys merched yn gwisgo’r hyn y gallwn ei ystyried yn amrywiad cynnar o’r het Gymreig. Yn Gwisgoedd Castellnewydd Emlyn o 1792, mae pob un o’r 14 o ferched yn yr olygfa, yn ogystal â’r ddau blentyn, yn cael eu darlunio’n gwisgo hetiau ag ymylon du sydd bron yn union yr un fath â’i gilydd. Er bod yr hetiau’n fyrrach ac yn llai caled na’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn het Gymreig heddiw, mae yna debygrwydd amlwg o ran steil. Yn yr arysgrif o dan y paentiad dyfrlliw, mae Ibbetson yn nodi “peculiar drefs and costume of the peasantry, in the district around Newcastle Emlyn in Pembrokeshire.” Yma mae’r arlunydd o Loegr yn tynnu sylw at y ffaith fod gwisgoedd merched Cymru yn dra “hynod” iddo o’u cymharu â gwisgoedd yn Lloegr. Mae’r gwisgoedd hyn hefyd yn debyg i’r hyn y byddai rhywun yn ei feddwl amdano heddiw fel y wisg genedlaethol Gymreig, gyda’u patrymau streipiog a brith, a’u siolau a’u ffedogau. Yn ogystal â golwg nodedig y wisg, yr hyn sy’n rhyfeddol yw unffurfiaeth yr hetiau ymhlith yr holl ferched. Ar yr adeg yma roedd amrywiaeth eang o steiliau mewn hetiau, bonedau, capiau, tyrbanau, ategolion gwallt, wigiau a steiliau gwallt a dewis enfawr o addurniadau i’w hychwanegu gan gynnwys blodau, rhubanau a phlu. Fodd bynnag, yng ngweithiau Ibbetson, gwelwn un steil du di-addurn.Roedd y Cymry’n ymwybodol o unffurfiaeth drawiadol y wisg Gymreig, a daeth yn symbol strategol o bŵer torfol. Yn ôl yr hanes enwog, dywedir ei fod wedi helpu i drechu pwerau milwrol goresgynnol hyd yn oed. Ym 1797, glaniodd llongau rhyfel Ffrainc yn Sir Benfro yn yr hyn a elwir yn Frwydr Abergwaun. Mae sawl adroddiad yn dogfennu sut y bu i gannoedd o ferched mewn siolau coch a hetiau befar du Cymreig sefyll ar hyd yr arfordir y tu ôl i fyddin Prydain gan greu’r ddelwedd o bell eu bod nhw hefyd yn filwyr; arweiniodd hyn i’r Ffrancwyr ildio’n ddiamod. Yn sgil hyn, ystyriwyd bod y wisg genedlaethol Gymreig yn symbol o gryfder ac undod, a daeth yn rhan o etifeddiaeth Gymreig falch a chafodd ei gwreiddio yn hanes y genedl. Gwisg Genedlaethol Atgynhyrchiad o 1931 o gardiau post “Dull-wisgoedd Cymru/Cambrian Costumes“ gan Arglwyddes Llanofer ym 1834 (wedi'i docio) Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd yr het Gymreig a gweddill y wisg Gymreig i fod â steil sydd hyd yn oed yn fwy diffiniedig. Cyn hynny, nid yr het Gymreig oedd yr unig het oedd yn cael ei gwisgo o bell ffordd, yn rhannol gan ei bod yn ddrytach na hetiau ffelt neu wellt eraill. Roedd llawer o amrywiadau lleol ar yr het Gymreig hefyd; roedd yr het uchel yn boblogaidd mewn trefi mwy fel Caerdydd, Bangor a Chaerfyrddin, tra bod hetiau gwellt is gyda chorun gwastad yn boblogaidd ym Mhenrhyn Gŵyr, gan eu bod yn caniatáu i ferched gario basgedi cocos ar eu pen ac yn fwy addas ar gyfer y tywydd gwyntog. Ond dros y ganrif, byddai’r het yn cael ei newid i’r edrychiad mwy unigol, safonol ac unffurf rydyn ni’n meddwl amdani heddiw fel yr het Gymreig.Arglwyddes Llanofer (1802 i 1896) oedd y person a ddylanwadodd yn fawr ar y defnydd o’r wisg Gymreig draddodiadol, a bu’n gweithio’n ddiflino i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Ysgrifennai’n helaeth am y wisg Gymreig, a chynhyrchodd gyfres o ddarluniau ar y testun, a chanddi hi y cawn y traddodiad o wisgo’r wisg genedlaethol ar Ddydd Gŵyl Dewi. Er nad Arglwyddes Llanofer a ddyfeisiodd y wisg genedlaethol Gymreig, gweithiodd yn galed i ddod â’r wisg o gyfyngau’r dosbarth gweithiol, i gymdeithas y dosbarth uwch, gan fynnu bod yn rhaid i westeion i’w phartïon wisgo’r wisg genedlaethol hyd yn oed.Ym 1832, daeth y Dywysoges Fictoria (cyn bod yn frenhines) a’i mam ar ymweliad i’r gogledd, ac yn eu coets roedden nhw’n gwisgo hetiau Cymreig wrth basio drwy Fangor ‘i dalu teyrnged i forwynion hardd Cymru’. Felly erbyn hyn, gallwn weld y trawsnewidiad llwyr o wisg draddodiadol y werin i’r wisg genedlaethol ffasiynol ar gyfer pob dosbarth. Yn y ganrif honno felly, mae’r het a’r wisg genedlaethol yn dod yn ddillad ffurfiol smart. Roedd merched yn dewis gwisgo eu gwisg orau wrth werthu eu nwyddau yn y farchnad, yn ogystal ag ar y Sul i’r eglwys a’r capel. Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byddai llawer o gystadlaethau’r Eisteddfod yn cynnig gwobr am yr het Gymreig orau hyd yn oed. Yn ystod y ganrif hon, mae’r het Gymreig wedi dod yn symbol o falchder cenedlaethol. Wrth ddisgrifio’i chyfnod yn y gorllewin, ysgrifenna’r llenor o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Marie Trevelyan, ym 1893: “Yno, mae’r het befar yn dal i gael ei gwisgo o hyd gan rai o’r merched prydferthaf a glanaf yn y dywysogaeth. Maen nhw’n ferched trwsiadus iawn”.Mae’n anodd nodi’n union pryd rhoddwyd y gorau i wisgo’r het Gymreig o ddydd i ddydd oherwydd poblogrwydd aruthrol delwedd yr ‘hen fenyw Gymreig’. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif roedd y wisg Gymreig wedi newid o fod yn ddillad arferol, i wisg o Gymreictod ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus a thwristiaeth. Daeth delwedd y Wisg Genedlaethol Gymreig yn thema doreithiog ar gardiau post, cofroddion, a thwristiaeth yn nhrefi glan môr Cymru. Felly roedd pobl yn parhau i wisgo’r Het Gymreig ond roedd ei hystyr wedi newid unwaith eto.Het i Bawb Ar hyd y canrifoedd, roedd y defnydd o’r het Gymreig yn symud yn ôl ac ymlaen o ran steil, o’r werin i’r teulu brenhinol. Nid dosbarth oedd yr unig ffin ddiwylliannol yr oedd yr het yn ei chroesi. Mae’r het hefyd wedi mynd y tu hwnt i ffiniau dillad rhywedd. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, roedd y steil yma o het yn cael ei hystyried i raddau helaeth yn het i ddynion, a oedd yn dderbyniol yn gymdeithasol i ferched ei gwisgo yng nghyd-destun marchogaeth a theithio yn unig (gweithredoedd a oedd yn aml yn cael eu hystyried fel rhai gwrywaidd) ac eto yng Nghymru, mae’n ymddangos bod y drefn honno’n cael ei hanwybyddu. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd llawer o ddisgrifiadau Saesneg am ferched yng Nghymru yn gwisgo mewn modd ‘hynod’, ac yn nodi eu bod yn gwisgo ‘hetiau dynion’. Mynychodd Mary Yorke, teithiwr i Gymru ym 1774, wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a sylwodd ar hen wraig gyda “sgarff dros ei phen a het fel het i ddynion”. Er gwaethaf hyn, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, roedd yr het Gymreig wedi dod yn eitem oedd â chysylltiad cryf â bod yn fenyw Gymreig. Er bod hetiau Cymreig yn cael eu hystyried yn draddodiadol fel dilledyn i ferched, mae bellach yn ddilledyn sy’n herio’r deuaidd yn fwyfwy, gydag artistiaid cwiar cyfoes yn benodol yn defnyddio’r het yn eu gwaith fel symbol cenedlaethol y gall unrhyw un ei gwisgo. Felly, mae’r het a ddechreuodd yn ôl pob tebyg fel het dyn yn yr ail ganrif ar bymtheg, ac a fabwysiadwyd wedi hynny gan ferched, unwaith eto yn llwyddo i orchfygu’r rhywedd deuaidd yn y rhai sy’n ei gwisgo heddiw. Ac felly, wrth i’r pendil ffasiwn symud o un pen o’r sbectrwm i’r llall, rydyn ni’n ei weld yn dechrau siglo’n ôl heddiw.Nid yw’r berthynas ddeinamig yma rhwng y Cymry, dillad, a rhywedd yn rhywbeth newydd. Yn y 1800au, roedd merched a oedd yn gweithio yn y pyllau glo yn gwisgo dillad bechgyn, gan gynnwys trowsus, er mwyn gallu cropian drwy’r pyllau. Yn ystod Terfysgoedd Beca gwelwyd dynion yn gwisgo dillad merched mewn protestiadau treisgar, ac fel y soniwyd eisoes, cafodd merched mewn gwisg Gymreig eu camgymryd fel milwyr Prydeinig yn ystod Brwydr Abergwaun. Mae’r Het ei hun, mewn sawl ffordd, yn eitem androgynaidd - mae ei nodweddion du ac onglog llyfn yn llawer tebycach i eitemau gwisg gwrywaidd nodweddiadol fel siwt a het silc na llawer o ddillad benywaidd traddodiadol. Mae ei nodweddion onglog yn aml yn gwrthgyferbynnu â’r cap gwyn â ffrils a lesys oddi tano. Efallai mai dyma’n rhannol pam ei bod yn bwnc mor ddiddorol i lawer o artistiaid cwiar heddiw. Ffotograff o berfformwyr o’r grŵp Dawns Gyfoes Qwerin. Ffotograff gan Sioned Birchall. Yn y grŵp perfformio dawns gyfoes Qwerin, sy’n cael ei gyfarwyddo a’i goreograffu gan Osian Meilir, mae perfformwyr yn asio dawns werin draddodiadol Gymreig ag egni’r bywyd nos cwiar. Mae’r perfformwyr yn gwisgo ffurf wedi’i haddasu o’r wisg genedlaethol, ynghyd â hetiau Cymreig hynod o fawr, sy’n hongian drosodd ac yn cuddio llawer o wynebau’r perfformwyr, gan eu gorfodi i edrych allan drwy dyllau wedi’u torri allan yn ochr yr het. Mae’r gwisgoedd hyn, a ddyluniwyd gan Becky Davies, yn adrodd stori weledol drawiadol. Mewn dyfyniad gan Osian am y perfformiad maen nhw’n dweud:“Mae’r het yn creu rhyw fath o bresenoldeb, sy’n rhoi ymddangosiad sinistr a dirgel i ni. Mae’r hetiau, sy’n symbol o ddiwylliant Cymreig, yn cyfleu’r union bethau sy’n ein cyfyngu rhag symud ymlaen yn gorfforol at ddawnsio mwy egnïol a llawen. Drwy dynnu’r hetiau yma rydyn ni’n dileu’r blynyddoedd o gywilydd, baich a gormes, gan dorri cysylltiadau â disgwyliadau a chyfyngiadau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae aduno a chyfarch yr hetiau tua diwedd y gwaith yn weithred o dderbyn, derbyniad o’n hunaniaeth ein hunain. Rydyn ni’n croesawu’r hetiau yma’n ôl i’n breichiau fel symbol o ddilyniant, undod, cytgord a newid; symud gyda’n gilydd i ddyfodol newydd, Cymru gwiar.”Mewn geiriau eraill, mae’r het wedi dod yn symbol o hen Ddiwylliant Cymreig, ond yn hytrach na symbol y gellir gadael iddo lithro i ffwrdd, yn symbol y gellir ei ailfywiogi gydag ysbryd cyfnod newydd o hunaniaeth Gymreig. Seicoleg HetiauMae’r Het yn eistedd mewn man amlwg ar y gwisgwr, mae’n fframio’r wyneb ac mae modd i’r gwisgwr ei gweld yng nghornel eu llygaid. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ddod yn arfau pwerus yn y ffordd rydyn ni’n gweld ein hunain. Wrth drafod hetiau, dywedodd y golygydd ffasiwn, Isabella Blow, sy’n adnabyddus am wisgo hetiau: “Mae ffasiwn yn beth fampiraidd, hwn yw’r hwfer ar eich ymennydd. Dyna pam dw i’n gwisgo’r hetiau, i gadw pawb draw oddi wrtha i.” Mae Isabella yn cyfeirio at ofynion cymdeithasol ffasiwn a chydymffurfiaeth, sy’n gallu bod yn ormesol, a sut gall chwarae ar y meddwl; fel gwrthbwynt i hyn, mae’r het yn cyflawni rôl tarian feddyliol a chorfforol. Mae het ag ymylon llydan yn creu ac yn mynnu pellter corfforol rhwng pobl, ac yn gwneud yr un peth yn seicolegol hefyd, gan greu gwahaniaeth amlwg rhwng y sawl sy’n ei gwisgo a’r rhai nad ydyn nhw’n ei gwisgo. Yn ei hanfod, mae gan het y potensial i greu ymdeimlad o wahanu a hunaniaeth annibynnol rhwng y gwisgwr a’r llall. Gall hyn roi cipolwg ar lwyddiant yr het Gymreig, fel tarian amddiffynnol, mae’n symbol o warchod diwylliant a threftadaeth Cymru. Yn olaf, mewn dyfyniad arall gan Isabella, mae’r ymdeimlad cynhenid o hunaniaeth sy’n gysylltiedig â’r het yn cael ei atgyfnerthu. “Dydw i ddim yn defnyddio het fel prop, dw i’n ei defnyddio fel rhan ohona i. Os ydw i’n teimlo’n isel, dw i’n mynd i weld Philip (Treacy), yn gorchuddio fy wyneb, ac yn teimlo’n wych”. Felly mae sut mae rhywun yn gwisgo yn effeithio nid yn unig ar sut mae eraill yn eich gweld, ond sut rydyn ni’n gweld ac yn teimlo amdanon ni ein hunain. Os yw dillad yn estyniad o’n hunain, yna mae caru’r dillad rydyn ni’n eu gwisgo yn creu potensial i’n helpu ni i weld ein hunain yn wahanol. Yn achos yr het Gymreig gall fod yn symbol o gryfder, cenedligrwydd, a balchder. I’r rhai sy’n gwisgo’r Het Gymreig heddiw, boed wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, fel rhan o wisg dawns yn yr Eisteddfod, neu am hwyl, mwynhewch wisgo’r Het i’ch helpu i deimlo’n wych ac i’ch cysylltu â 400 mlynedd o hanes a treftadaeth Cymru. Cyfeiriadau / Darllen PellachBritish Vogue, Isabella Blow, Bibby Sowray. 4 Tachwedd (2011)Folk life, Welsh Peasant Costume, F. G. Payne. cyfrol II (1964) Textile history, Welsh peasant dress-workwear or national costume?, Christine Stevens. 33 (I) (2002)The costume accessories series, Hats, Fiona Clark. (1982)Welsh Costume, Ken Ethridge. (1958)Women in Welsh History, Derek Draisey. (2004)Women’s Headdress and Hairstyles in England from A.D.600 to the Present Day, Georgine de Courtais.(1986)Dolenni gwehttps://www.osianmeilir.com/qwerinBBC Two - Welsh Icons, The Welsh hat in historyWelsh Costume / Gwisg Gymreig | Welsh costume – descriptions, illustrations, surviving examples, 1700-1950 (wordpress.com)
Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Elen Phillips, 2 Mawrth 2020 Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52 Casgliadau Arlein: Gorchudd gwely clytwaith Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i dros 200 o gwiltiau a chlytwaith. Mae’r casgliad amrywiol a phwysig hwn yn cynnwys trawstoriad o gynlluniau a thechnegau, ac yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o’r grefft yng Nghymru. Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw Cwilt y Teiliwr – gorchudd gwely clytwaith a wnaed gan James Williams, prif deiliwr milwrol o Wrecsam. Mae cynllun y cwilt yn brawf o ddawn greadigol y teiliwr, yn ogystal â’i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei ddydd. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826. Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf. Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd – arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid. Gwneir cwiltiau clytwaith yn aml drwy wnïo defnydd sydd dros ben, er enghraifft hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu sborion gwlân – defnydd lifrau milwrol mae’n debyg. Yn syfrdanol, mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân, oll wedi'u gwnïo at ei gilydd o’r cefn gyda thrawsbwythau. Gelwir y math hwn o waith yn glytwaith mewnosod. Mae’n dechneg sy’n gofyn am fedr arbennig â’r nodwydd a brethyn sy’n ddigon trwchus i ddygymod â’r trawsbwythau. O ganlyniad, mae’r engreifftiau sydd i’w canfod mewn casgliadau amgueddfeydd yn dueddol o fod yn gysylltiedig â theilwriaid proffesiynol. Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd, rhwng 1842 a 1852, yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden. Ymhen dim, daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus. Ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr o ‘drysorau celfyddyd’ (Art Treasures Exhibition) a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933. Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams. Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn College Street, ger Eglwys y Plwyf. Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab. Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid. Meddai ar y pryd: “it has always been my wish that the quilt should be sent to [the] National Museum of Wales so as my fellow countrymen should have the opportunity to admire a work of art that today could not be done if you were to pay the most skilful craftsman £1 a minute to do”.
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Cwestiynau Cyffredin: Y Wisg Gymreig 14 Mehefin 2014 Oes ffasiwn beth â gwisg genedlaethol Gymreig?Mae'r ddelwedd boblogaidd o'r wisg 'genedlaethol' Gymreig, sef gwraig mewn clogyn coch a het ddu uchel, yn deillio o wahanol ddylanwadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhan ydoedd o ymgais i roi hwb i ddiwylliant Cymreig mewn cyfnod pan oedd gwerthoedd traddodiadol o dan fygythiad.O ble ddaeth y steil 'genedlaethol' Gymreig?Mae'r wisg sy'n cael ei hystyried yn wisg genedlaethol wedi'i seilio ar y dillad a wisgid gan wragedd cefn gwlad Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef pais wlanen resog a wisgid o dan goban neu wn agored, gyda ffedog, siôl a hances neu gap. Roedd steil y gwn yn amrywio - gellid cael gwn llac fel côt, gwn gyda bodis wedi'i ffitio a sgert hir a hefyd gwn byr, a oedd yn debyg iawn i wisg farchogaeth. Oedd menywod yn gwisgo hetiau tal, du, go iawn?Roedd yr hetiau a wisgid yn gyffredinol yn y cyfnod hwn yr un fath â hetiau'r dynion. Nid ymddangosodd yr het uchel math 'simnai' tan ddiwedd y 1840au ac ymddengys iddi gael ei seilio ar gyfuniad o'r hetiau uchel a wisgid gan ddynion, sef y 'top hat' a math o het uchel a wisgid mewn ardaloedd cefn gwlad yn ystod y cyfnod 1790-1820. Pwy oedd yn gyfrifol am boblogeiddio'r ffasiwn?Bu Augusta Hall, gwraig i un o feistri haearn Gwent ac Arglwyddes Llanofer, yn frwd dros wisg 'genedlaethol' a byddai'n annog pobl i'w gwisgo yn ei chartref ac mewn eisteddfodau. Credai ei bod yn bwysig annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ac i wisgo dillad nodweddiadol Gymreig. Llwyddodd yn hyn o beth, a hynny'n bennaf oherwydd fod pobl yn teimlo bod eu hunaniaeth genedlaethol o dan fygythiad. Roedd gwisgo gwisg genedlaethol yn un ffordd o hyrwyddo'r hunaniaeth honno.Dylanwad pellach oedd gwaith yr arlunwyr a gynhyrchai brintiau i'r fasnach ymwelwyr a oedd yn prysur dyfu, ac a arweiniodd at boblogeiddio'r syniad o wisg Gymreig draddodiadol, ac yn ddiweddarach waith y ffotograffwyr a gynhyrchai filoedd o gardiau post. Arweiniodd hyn at greu un math o wisg ystrydebol yn hytrach na'r steiliau amrywiol a geid yn gynharach yn y ganrif. O ble ddaeth y patrymau sydd ar 'siol Gymreig'?Rhwng 1840 a 1870 y siôl oedd y gyfwisg fwyaf ffasiynol. Y sioliau mwyaf poblogaidd oedd y sioliau Paisley, y daeth y patrwm gwreiddiol ar eu cyfer o Kashmir yn India.Y sioliau mwyaf cyffredin ar y cychwyn oedd sioliau plaen ag ymyl patrymog wedi'i gysylltu wrthynt. Yn ddiweddarch, cafodd llawer math o sioliau cain gyda phatrymau ar yr ymyl neu dros y cyfan eu gwehyddu yn Norfolk, yr Alban a Pharis. Erbyn canol y ganrif ceid sioliau mawr iawn i gyd fynd â sgertiau llawn y cyfnod. Câi sioliau eu gwneud mewn ffabrigau a phatrymau eraill, gan gynnwys sidan Canton a les cain a wnaed â pheiriant, er mai'r patrwm Paisley a sioliau gwlân cartref gyda phatrymau sgwarog a ddaeth yn boblogaidd yng Nghymru.Oedd menywod Cymreig yn gisgo siôl?Yn ddiweddarach, er nad oedd gwragedd ffasiynol bellach yn gwisgo sioliau, byddai gwragedd cefn gwlad a gweithwragedd y trefi'n dal i wneud a gwisgo sioliau llai o faint. Erbyn y 1870au cynhyrchid sioliau rhatach drwy brintio'r patrymau ar wlanoedd main neu gotwm. Roedd sioliau gwlân, gwau a Paisley'n gyffredin yn ardaloedd cefn gwlad Cymru hyd yn oed ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Cafodd y siôl Paisley ei derbyn yn rhan o'r wisg 'Gymreig', er nad oes dim yn draddodiadol Gymreig yn ei chylch.A ddefnyddiwyd y siol Gymreig i gario babi? Un traddodiad sy'n wirioneddol Gymreig yw'r arfer o gario babanod mewn siôl . Ceir darluniau yn portreadu hyn o ddiwedd y ddeunawfed ganrif pan arferai gwragedd Cymru wisgo darn syml o ddefnydd wedi'i glymu am eu cyrff. Pan ddaeth sioliau'n boblogaidd gwnaed yr un defnydd ohonynt ac mae rhai gwragedd hyd heddiw yn dal i lynu at y traddodiad hwn. Darganfod mwy am Hanes Menywod Cymru.
Baner y Sgowtiaid ar daith i Begwn De Jennifer Barsby, Adran Gadwraeth, Elen Phillips, Adran Bywyd Gwerin, a Tom Sharpe, 14 Mehefin 2013 Comander Evans yn rhoi'r faner yn ôl i'r Arweinydd T. W. Harvey ar fwrdd y Terra Nova ar 17 Mehefin 1913 Achub y faner o weddillion neuadd y sgowtiaid, Wyverne Road, Cathays, Caerdydd, wedi cyrch bomio Almaenig ar 30 Ebrill 1941 Pan ddychwelodd y Terra Nova, llong alldaith Antarctig Capten Scott, i borthladd Caerdydd ar 14 Mehefin 1913, roedd sawl baner yn chwifio arni. Yn ogystal â Lluman Wen ar ei starn, y ddraig goch ar y prif hwylbren ac arfbais Dinas Caerdydd ar yr hwylbren blaen, roedd baner arall tipyn llai hefyd yn cyhwfan ar flaen y llong. Baner fach werdd 4ydd Trŵp Sgowtiaid Caerdydd oedd hi, a aeth i'r Antarctig ac yn ôl. Sefydlwyd 4ydd Trŵp Sgowtiaid (St Andrew) Caerdydd yn ardal Cathays yng Nghaerdydd ym mis Hydref 1908, prin bum mis wedi i sylfaenydd y mudiad Robert Baden-Powell gyhoeddi Scouting for boys. Er gwaetha'i deitl, dyma'r trŵp sgowtiaid cyntaf i'w sefydlu yng Nghymru. Ym mis Mawrth 1910, archebodd eu harweinydd, T. W. Harvey, faner gan bencadlys y sgowtiaid yn Llundain, er mwyn ei chyflwyno i Scott ar gyfer ei alldaith arfaethedig i Begwn y De. Talodd chwe swllt amdani, a thair ceiniog i'w phostio, ac ar yr anfoneb a bostiwyd gyda'r taliad drwy archeb bost, ysgrifennodd "Urgent. For Captain Scott Terra Nova for South Pole" . Cyflwynwyd y faner i'r alldaith ym mis Mehefin 1910, pan oedd y Terra Nova yng Nghaerdydd i lwytho glo a chyflenwadau eraill yn barod ar gyfer y fordaith fawr i'r Antarctig ar 15 Mehefin. Roedd yn un o sawl baner a gyflwynwyd i'r alldaith yng Nghaerdydd gyda chais i'w cludo i Begwn y De. Mae'n sicr i'r baneri gyrraedd caban cychwynnol yr alldaith yn Cape Evans, McMurdo Sound ym môr Ross, ond go brin yr aeth Scott â nhw bob cam i Begwn y De ei hun. Ffurfiodd 4ydd sgowtiaid Caerdydd osgordd er anrhydedd ar ochr y cei yn Noc y Rhath pan ddychwelodd y Terra Nova i Gaerdydd ddydd Sadwrn 14 Mehefin 1913. Dridiau'n ddiweddarach, ar 17 Mehefin, ymgasglodd tua hanner cant o'r trŵp ar fwrdd y Terra Nova i wylio'r Comander Teddy Evans – a gymerodd yr awenau ar ôl i Scott farw – yn cyflwyno eu baner yn ôl i'w harweinydd T. W. Harvey. Wrth annerch y bechgyn, dywedodd Evans, "Well, boys, here's your flag, and I hope you will treasure it. It has been a long way. If you become such good soldiers as Captain Oates, you will be good men." Ar ôl i'r faner ddychwelyd i ddwylo'r sgowtiaid, cafodd ei fframio a'i harddangos yn neuadd y sgowtiaid yn Wyverne Road Caerdydd tan 30 Ebrill 1941, pan gafodd yr adeilad ei ddinistrio gan ffrwydryn tir Almaenig a ollyngwyd yn ystod cyrch awyr. Wrth chwilio a chwalu drwy'r adfeilion wedyn, cafodd pawb gryn syndod o weld y faner yn un darn a ddim gwaeth. Nid dyna ddiwedd anturiaethau'r faner, fodd bynnag. Cafodd ei harddangos yn y cwt newydd, a losgodd i'r llawr maes o law, cyn symud i adeilad newydd arall yn Cathays a ddifrodwyd gan ddŵr ar ôl i'r peipiau fyrstio. Goroesi fu hanes y faner unwaith eto. Bellach yn rhan o gasgliad tecstilau Amgueddfa Cymru, mae baner 4ydd trŵp sgowtiaid Caerdydd (St Andrew) wedi ailymuno â dwy faner arall oedd yn cyhwfan ar y Terra Nova pan ddychwelodd i Gaerdydd – y Lluman Wen a'r Ddraig Goch. Baner 4ydd Trŵp Sgowtiaid Caerdydd Boy Scouts Be Prepared Mae'r faner wedi'i gwneud o ddau ddarn o frethyn gwlanog gwyrdd garw, gwehyddiad plaen, wedi'i gwnïo â pheiriant drwy'r canol gyda phwythau dwbl ag edau gotwm ddu. Mae'r ochrau wedi'u troi tu chwith a'u gwnïo â pheiriant gyda'r un edau ddu. Ar ganol y faner mae motiff fleur-de-lis melyn y Sgowtiaid wedi'i amlinellu â phaent brown a du. Mae'r brethyn gwyrdd wedi'i randorri a'r ymylon wedi'u troi am i mewn, gyda'r motiff wedi'i osod ar y tu blaen, a'r ymylon wedi'u plygu oddi tano a'u gwnïo â pheiriant gyda phwythau dwbl. Mae'r dechneg hon yn golygu bod modd gweld y motiff o'r ddwy ochr wrth chwifio'r faner, er mai dim ond o'r tu blaen y gellir gweld yr ysgrifen. O dan y fleur-de-lis, mae sgrôl, eto mewn gwlân melyn, â'r arwyddair BOY SCOUTS BE PREPARED wedi'i beintio mewn priflythrennau du. Mae enw'r trŵp wedi'i beintio'n wyn yn y gornel chwith isaf. Mae'n mesur 92.5 cm x 115cm, sy'n golygu mai dyma'r faner leiaf o blith baneri'r Terra Nova sydd yng nghasgliad yr Amgueddfa. Mae ymyl y faner, a fyddai wedi bod yn nannedd y gwynt, wedi treulio cryn dipyn. Mae difrod fel hyn yn gyffredin ar faneri. Mae rhywfaint o farciau duon ar y tu blaen hefyd, ac er na wyddom yn union beth ydyw, mae'n debyg iawn i'r marciau sydd ar y ddwy faner arall o gasgliad y Terra Nova. Mae olion rhwd bach, tyllau pinnau a phwythau tacio hir yn awgrymu ei bod wedi'i harddangos ar fwrdd caled mewn ffrâm ar un adeg. Mae cryn dipyn o ddifrod golau ar y tu blaen hefyd. Yn anffodus, does dim modd gwrthwneud hyn, ond bydd deunyddiau ar gyfer cadwraeth yn helpu i gynnal strwythur ffisegol y faner. Mae olion colli lliw, rhwygo a staenio yn ein helpu i ddeall sut cafodd y faner ei defnyddio, ei storio a'i harddangos yn ystod 103 o flynyddoedd o hanes. Ein nod yw diogelu cymaint ag sy'n bosib o wybodaeth am orffennol y faner.